Manylion y penderfyniad
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog)
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Defnyddir
hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel
arfer.
Cyflwynodd
Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg
a Chyfathrebu adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar
gyfer y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro Arfog).
Cymeradwywyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Eiddo Diwylliannol (Gwrthdaro
Arfog) yn y Cyfarfod Llawn ar 20
Medi 2016.
Penderfyniadau:
Dechreuodd yr eitem am 17.25
NDM6090 Ken Skates (De Clwyd)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y
dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Eiddo Diwylliannol
(Gwrthdaro Arfog) sy'n ymwneud â gwarchod eiddo diwylliannol mewn achos o
wrthdaro arfog, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 21/09/2016
Dyddiad y penderfyniad: 20/09/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/09/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd