Manylion y penderfyniad
Legislative Consent Motion on the Criminal Finances Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Defnyddir
hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel
arfer.
Cyhoeddodd
y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad
ar y Bil Cyllid Troseddol – Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF,
155KB) ar 8 Rhagfyr 2016.
Cymeradwywyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cyllid Troseddol yn y Cyfarfod Llawn ar 13 Rhagfyr 2016.
Penderfyniadau:
Dechreuodd yr eitem am 17.44
NDM6183 Mark Drakeford
(Gorllewin Caerdydd):
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6 yn cytuno y dylai Senedd y DU
ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyllid Troseddol, yn ymwneud â chreu trosedd
newydd sef efadu trethi, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 14/12/2016
Dyddiad y penderfyniad: 13/12/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/12/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd