Manylion y penderfyniad
Consideration of the Legislative Consent Memorandum for the UK Fisheries Bill: evidence session with the Minister for Environment, Energy and Rural Affairs
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o
fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.
Yn unol â’r Nodiadau Esboniadol sy’n cyd-fynd â Bil
Pysgodfeydd, bydd yn darparu’r fframwaith cyfreithiol i’r Deyrnas Unedig
weithredu fel gwladwriaeth arfordirol annibynnol dan Gonfensiwn y Cenhedloedd
Unedig ar Gyfraith y Môr 1982 (UNCLOS) ar ôl i’r DU ymadael â’r Undeb
Ewropeaidd a’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin (y PPC). Mae’r Bil yn creu dulliau
cyffredin o ran rheoli pysgodfeydd rhwng llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau
Datganoledig ac yn gwneud diwygiadau i’r dull rheoli pysgodfeydd yn Lloegr.
Cyflwynwyd y Bil
Pysgodfeydd y DU (y Bil) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 25 Hydref 2018.
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 15
Tachwedd 2018. Ar 10
Ionawr 2019, gosododd Llywodraeth Cymru Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol.
Cyhoeddodd y Pwyllgor
Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ei adroddiad
(PDF, 951KB) ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 12 Chwefror 2019.
Cyhoeddodd y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei adroddiad
(PDF, 709KB) ynghylch y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar 12 Chwefror 2019.
Methodd y Bil â chwblhau ei daith drwy Senedd y DU cyn y
diddymiad. Mae hyn yn golygu na fydd y Bil yn symud ymlaen ymhellach.
Penderfyniadau:
2.1
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lesley Griffiths AC, Gweinidog yr
Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
2.2
Cytunodd y Gweinidog i adrodd yn ôl i'r Pwyllgor ar gynnydd a wnaed wrth fynd
i'r afael â phryderon mewn perthynas â chymal 18 o Fil Pysgodfeydd y DU yn
dilyn trafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2019
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/01/2019 - Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol:
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu