Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.51.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4973 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r rheolaeth ariannol ofalus a gaiff ei chyflawni gan awdurdodau lleol a arweinir gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru sydd wedi’u galluogi i gadw’r codiadau yn y dreth gyngor yn isel dros yr wyth mlynedd diwethaf.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
41 |
46 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
Yn annog rheolaeth ariannol ofalus ar ran pob awdurdod lleol i’w galluogi i rewi’r dreth gyngor
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
36 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd.
Yn gresynu wrth fethiant Llywodraeth Cymru i drosglwyddo’r £38.9 miliwn o arian canlyniadol er mwyn gallu rhewi’r dreth gyngor ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
36 |
46 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gan fod y
Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau
a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 03/05/2012
Dyddiad y penderfyniad: 02/05/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad