Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.20
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5524 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cefnogi Wythnos Gofalwyr 2014 sy'n
cydnabod ac yn dathlu cyfraniad mwy na 370,000 o ofalwyr di-dâl yng Nghymru,
sy'n darparu cymorth amhrisiadwy i deulu a ffrindiau.
2. Yn nodi'r dystiolaeth gynyddol o rôl hynod
heriol gofalu, a all gael effaith andwyol ar iechyd, cyfleoedd cyflogaeth,
gweithgarwch cymdeithasol a hamdden y rhai sy'n rhoi gofal yn ddi-dâl.
3. Yn nodi canfyddiadau adroddiad ‘Prepared to
Care?’ 2013 a ganfu nad oedd 75 y cant o ofalwyr yn barod am rôl ofalu ac nad
oedd 81 y cant yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael, sy'n aml yn golygu bod
gofalwyr yn teimlo'n agored i niwed ac yn ynysig.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cefnogi ymgyrch ymwybyddiaeth i annog
hunan-nodi a mynediad i gymorth a gwella dealltwriaeth y cyhoedd o rôl gofalwyr;
b) datblygu gwybodaeth i gyflogwyr gynorthwyo
gweithwyr sy'n ceisio cael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u rolau gofalu; ac
c) gweithio gyda darparwyr addysg i gynnig darpariaeth mwy hyblyg i
alluogi gofalwyr o bob oed i gael mynediad i gyfleoedd ar gyfer addysg a
hyfforddiant.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
11 |
49 |
Derbyniwyd
y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/06/2014
Dyddiad y penderfyniad: 11/06/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad