Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.50
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o
dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5676 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cael mynediad
at gyfalaf ariannol i fusnesau Cymru yn hanfodol er mwyn hybu twf yn y sector
preifat.
2. Yn nodi bod gwella sgiliau
poblogaeth Cymru yn hanfodol i gynyddu cynhyrchiant a rhoi mantais gystadleuol
i economi Cymru.
3. Yn nodi bod ein natur
wledig a'n daearyddiaeth yn golygu bod angen cynigion arloesol a radical i dyfu
ein heconomi a gwella cysylltedd.
4. Yn credu bod yna lawer o
gryfderau a fydd yn helpu i adeiladu economi Cymru, fel y ffaith ein bod yn
agos at farchnadoedd y DU a'r UE, pocedi cyfredol o arloesi a rhagoriaeth, a
chapasiti hyfforddi.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a
mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i
fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru, gan gynnwys drwy:
a) creu banc datblygu yng
Nghymru;
b) datblygu rhwydweithiau o
ymgynghorwyr i ddarparu cymorth busnes proffesiynol;
c) ymgorffori sgiliau ehangach
megis entrepreneuriaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth yn y cwricwlwm;
d) datganoli mwy o bwerau dros
ddatblygu economaidd o Fae Caerdydd, yn uniongyrchol i gymunedau;
e) gwella ein seilwaith
trafnidiaeth drwy gefnogi trydaneiddio Prif Linell Reilffordd Arfordir y
Gogledd, datblygu awdurdodau trafnidiaeth teithwyr i reoleiddio trafnidiaeth
gyhoeddus a sicrhau darpariaeth addas; ac ariannu astudiaeth ddichonoldeb i
adfer y cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu
â'r rhwydwaith presennol; ac
f) lansio adolygiad radical a
systematig o'r modd y mae ardrethi busnes yn cael eu gweithredu yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
47 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt 1 newydd ac
ail-rifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod bod sector preifat
llwyddiannus, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn hanfodol ar gyfer twf
economaidd cynaliadwy ledled Cymru a gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau
cyhoeddus.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
0 |
0 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)
Yn is-bwynt 5(e), mewnosoder ar
ôl 'Prif Linell Reilffordd Arfordir y Gogledd':
'a Llinell y Gororau'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd
y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 5e) dileu 'datblygu
awdurdodau trafnidiaeth teithwyr i reoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus a sicrhau
darpariaeth addas' a rhoi yn ei le 'datblygu model nad yw'n talu difidend fel
rhan allweddol o ddarparu system drafnidiaeth integredig'.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
17 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 5:
ymestyn y Cynllun Rhyddhad
Ardrethi i Fusnesau Bach i roi rhyddhad o 100% i bob busnes sydd â gwerth
ardrethol o £10,000 neu lai a rhyddhad sy'n lleihau'n raddol ar gyfer y rhai
sydd â gwerth ardrethol rhwng £10,001 a £15,000.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
31 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar
ddiwedd pwynt 5:
sefydlu corff newydd i weithio
ochr yn ochr â UKTI i adeiladu perthynas fasnachu rhwng busnesau Cymru a'r
gymuned ryngwladol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
9 |
0 |
43 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5676 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod sector preifat
llwyddiannus, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, yn hanfodol ar gyfer twf
economaidd cynaliadwy ledled Cymru a gwella'r ddarpariaeth gwasanaethau
cyhoeddus.
2. Yn nodi bod cael mynediad
at gyfalaf ariannol i fusnesau Cymru yn hanfodol er mwyn hybu twf yn y sector
preifat.
3. Yn nodi bod gwella sgiliau
poblogaeth Cymru yn hanfodol i gynyddu cynhyrchiant a rhoi mantais gystadleuol
i economi Cymru.
4. Yn nodi bod ein natur
wledig a'n daearyddiaeth yn golygu bod angen cynigion arloesol a radical i dyfu
ein heconomi a gwella cysylltedd.
5. Yn credu bod yna lawer o
gryfderau a fydd yn helpu i adeiladu economi Cymru, fel y ffaith ein bod yn
agos at farchnadoedd y DU a'r UE, pocedi cyfredol o arloesi a rhagoriaeth, a
chapasiti hyfforddi.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i gyflwyno strategaeth gytbwys ac integredig sy'n canolbwyntio ar allforio, a
mynd i'r afael â diffyg datblygiad yng Nghymru gydag ymrwymiad hirdymor i
fuddsoddi ym mhobl, busnesau a seilwaith Cymru, gan gynnwys drwy:
a) creu banc datblygu yng
Nghymru;
b) datblygu rhwydweithiau o
ymgynghorwyr i ddarparu cymorth busnes proffesiynol;
c) ymgorffori sgiliau ehangach
megis entrepreneuriaeth, arweinyddiaeth a rheolaeth yn y cwricwlwm;
d) datganoli mwy o bwerau dros
ddatblygu economaidd o Fae Caerdydd, yn uniongyrchol i gymunedau;
e) gwella ein seilwaith
trafnidiaeth drwy gefnogi trydaneiddio Prif Linell Reilffordd Arfordir y
Gogledd, datblygu model nad yw'n talu difidend fel rhan allweddol o ddarparu
system drafnidiaeth integredig; ac ariannu astudiaeth ddichonoldeb i adfer y
cysylltiadau rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin i gysylltu â'r
rhwydwaith presennol; ac
f) lansio adolygiad radical a
systematig o'r modd y mae ardrethi busnes yn cael eu gweithredu yng Nghymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
12 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 29/01/2015
Dyddiad y penderfyniad: 28/01/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad