Manylion y penderfyniad
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.05
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5898 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adolygiad o wariant a datganiad yr
hydref Llywodraeth y DU;
2. Yn croesawu cyflwyno llawr Barnett sy'n 115 y
cant o wariant cymharol y pen yn Lloegr; a
3. Yn nodi y bydd gwariant cyfalaf yng Nghymru yn
codi dros £900 miliwn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
34 |
45 |
Gwrthodwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Mewnosod ar ddiwedd pwynt 2:
'ac yn nodi'r angen i gael
cytundeb rhyng-lywodraethol ffurfiol er mwyn sicrhau canlyniad sy'n hir ei
barhad'
Cefnogwyd gan:
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Mewnosod pwynt 3 newydd ac
ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu tro pedol
Llywodraeth y DU ar ddileu'r system credydau treth, ond yn nodi â phryder y
gallai toriadau i gredyd cynhwysol arwain at golliadau tebyg ar gyfer teuluoedd
incwm isel erbyn 2020.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
11 |
45 |
Derbyniwyd
Gwelliant 2.
Gwelliant 3 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at yr oedi o ran
trydaneiddio prif reilffordd y Great Western o Lundain i Abertawe a diffyg
gwybodaeth ddiweddar am drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
Gwelliant 3.
Gwelliant 4 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y diffyg
eglurder ynghylch faint o gymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer bargen dinas
Caerdydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
11 |
45 |
Derbyniwyd
Gwelliant 4.
Gwelliant 5 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith yr
hepgorwyd prosiect morlyn llanw Bae Abertawe o ddatganiad yr hydref.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
Gwelliant 5.
Gwelliant 6 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y toriad o 22 y
cant yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU sy'n bygwth ein gallu i gyrraedd
targedau newid hinsawdd a datgarboneiddio yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
11 |
45 |
Derbyniwyd
Gwelliant 6.
Gwelliant 7 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y toriad o £1.7
miliwn mewn cyllid ar gyfer S4C, er gwaethaf yr ymrwymiad ym maniffesto
Ceidwadwyr Cymru i '(d)diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C'.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
Gwelliant 7.
Gwelliant 8 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth y DU a
Llywodraeth Cymru i weithio gyda'i gilydd i ddiweddaru dadansoddiad Gerry
Holtham o danariannu Cymru, ac yna cynyddu'r grant bloc i lefel deg.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
11 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
Gwelliant 8.
Gwelliant 9 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith na fydd
Cymru – yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon – yn cael cyllid canlyniadol
Barnett llawn o ganlyniad i brosiect cyflymder uchel 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
34 |
45 |
Gwrthodwyd Gwelliant 9.
Gwelliant 10 – Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn nodi cynnydd o tua £945
miliwn yng nghyfran ganlyniadol Cymru o'r cynnydd mewn gwariant ar iechyd yn
Lloegr ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i neilltuo'r swm hwn ar gyfer cyllidebau
iechyd a gofal yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
7 |
15 |
23 |
45 |
Gwrthodwyd
Gwelliant 10.
Gwelliant 11 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at gael gwared ar
fwrsariaethau nyrsio yn Lloegr a'r ffaith eu bod yn cael eu disodli gan
fenthyciadau, a fydd yn cael effaith negyddol ar gynllunio gweithlu yn y
dyfodol a recriwtio yn y GIG yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gadarnhau a fydd cyllid ar gyfer astudiaethau nyrsio yng Nghymru yn parhau.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 11:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
11 |
23 |
45 |
Gwrthodwyd
Gwelliant 11.
Gwelliant 12 – Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at gapio
budd-daliadau tai i'r gyfradd lwfans tai lleol yn y sector cymdeithasol sy'n
peryglu'r bobl fwyaf agored i niwed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro
effaith y penderfyniad hwn ar ddigartrefedd a gwasanaethau llety eraill a
gefnogir yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 12:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
11 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
Gwelliant 12.
Gan
fod gwelliant 7 wedi’i gynnig, cafodd gwelliant 13 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5898 Paul Davies (Preseli
Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adolygiad o wariant a datganiad yr
hydref Llywodraeth y DU;
2. Yn croesawu cyflwyno llawr Barnett sy'n 115 y
cant o wariant cymharol y pen yn Lloegr ac yn nodi'r angen i gael
cytundeb rhyng-lywodraethol ffurfiol er mwyn sicrhau canlyniad sy'n hir ei
barhad.
3. Yn croesawu tro pedol
Llywodraeth DU ar ddileu'r system credydau treth, ond yn nodi â phryder y
gallai toriadau i gredyd cynhwysol arwain at golliadau tebyg ar gyfer teuluoedd
incwm isel erbyn 2020.
4. Yn nodi y bydd gwariant cyfalaf yng Nghymru yn
codi dros £900 miliwn.
5. Yn gresynu at yr oedi o ran
trydaneiddio prif reilffordd y Great Western o Lundain i Abertawe a diffyg
gwybodaeth ddiweddar am drydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru.
6. Yn gresynu at y diffyg
eglurder ynghylch faint o gymorth ariannol sydd ar gael ar gyfer bargen dinas
Caerdydd.
7. Yn gresynu at y ffaith yr
hepgorwyd prosiect morlyn llanw Bae Abertawe o ddatganiad yr hydref.
8. Yn gresynu at y toriad o 22
y cant yn yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd y DU sy'n bygwth ein gallu i gyrraedd
targedau newid hinsawdd a datgarboneiddio yng Nghymru.
9. Yn gresynu at y toriad o
£1.7 miliwn mewn cyllid ar gyfer S4C, er gwaethaf yr ymrwymiad ym maniffesto
Ceidwadwyr Cymru i '(d)diogelu arian ac annibyniaeth olygyddol S4C'.
10. Yn galw ar Lywodraeth y DU
a Llywodraeth Cymru i weithio gyda'i gilydd i ddiweddaru dadansoddiad Gerry
Holtham o danariannu Cymru, ac yna cynyddu'r grant bloc i lefel deg.
11. Yn gresynu at gapio
budd-daliadau tai i'r gyfradd lwfans tai lleol yn y sector cymdeithasol sy'n
peryglu'r bobl fwyaf agored i niwed ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro
effaith y penderfyniad hwn ar ddigartrefedd a gwasanaethau llety eraill a
gefnogir yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
11 |
45 |
Derbyniwyd
y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 03/12/2015
Dyddiad y penderfyniad: 02/12/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad