Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd Gweinidogion Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14:14.

 

Gofynnwyd cwestiynau 1, 4, 5 a 7 i 14. Tynnwyd cwestiynau 2, 3, 6 ac 15 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 5 gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.

 

Dyddiad cyhoeddi: 14/06/2012

Dyddiad y penderfyniad: 13/06/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad