Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.28.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5016 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu:

 

a) nad oes lle i fod yn hunanfodlon yng nghyswllt cyflenwi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;

 

b) mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddal Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif drwy fecanwaith ystyrlon ar gyfer monitro ansawdd gofal mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;

 

c) bod Cymru yn wynebu sialensiau newydd a bod cyd-destun cymdeithasol ac economaidd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn newid yn gyson;

 

d) y dylai pob menyw yng Nghymru, ni waeth ble mae hi'n byw ac ni waeth beth yw ei chefndir cymdeithasol neu ei hethnigrwydd, allu cael gafael ar a derbyn gofal mamolaeth a newyddenedigol diogel o ansawdd uchel;

 

e) na fu gwelliant sylweddol mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol er 1999; a

 

f) bod yr ystadegau cyfredol ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol a mamolaeth yn annerbyniol.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) ddarparu arweinyddiaeth strategol a chryf i Fyrddau Iechyd Lleol ledled Cymru i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn gwella;

 

b) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau newyddenedigol a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn cael ei gymeradwyo gan y Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau nad yw unrhyw gynigion yn peryglu darparu gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr; ac

 

c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau mamolaeth a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn cael ei gymeradwyo gan Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan i sicrhau nad yw unrhyw gynigion yn peryglu darparu gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

41

45

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu is-bwyntiau 1e ac 1f.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

7

15

45

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:

 

cynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod digon o staff arbenigol ar gael ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol ledled y wlad.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi toriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a oedd yn fwy nag erioed o’r blaen, a bod modd i’r rhain beryglu unrhyw ymdrechion i wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

12

0

33

45

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5016 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu:

 

a) nad oes lle i fod yn hunanfodlon yng nghyswllt cyflenwi gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;

 

b) mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddal Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif drwy fecanwaith ystyrlon ar gyfer monitro ansawdd gofal mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;

 

c) bod Cymru yn wynebu sialensiau newydd a bod cyd-destun cymdeithasol ac economaidd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn newid yn gyson; a

 

d) y dylai pob menyw yng Nghymru, ni waeth ble mae hi'n byw ac ni waeth beth yw ei chefndir cymdeithasol neu ei hethnigrwydd, allu cael gafael ar a derbyn gofal mamolaeth a newyddenedigol diogel o ansawdd uchel.

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) ddarparu arweinyddiaeth strategol a chryf i Fyrddau Iechyd Lleol ledled Cymru i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn gwella;

 

b) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau newyddenedigol a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn cael ei gymeradwyo gan y Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau nad yw unrhyw gynigion yn peryglu darparu gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr;

 

c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau mamolaeth a wneir gan Fyrddau Iechyd Lleol yn cael ei gymeradwyo gan Grŵp Gweithredu Cymru Gyfan i sicrhau nad yw unrhyw gynigion yn peryglu darparu gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr; a

 

d) cynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod digon o staff arbenigol ar gael ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol ledled y wlad.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

0

45

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2012

Dyddiad y penderfyniad: 20/06/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad