Manylion y penderfyniad
Debate on the Constitutional and Legislative Affairs Committee's Report on Powers Granted to Welsh Ministers in UK Laws
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Ymchwiliad ar droed
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Roedd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi cytuno i gynnal ymchwiliad i’r arfer o roi pwerau
i Weinidogion Cymru yn uniongyrchol yn Neddfau San Steffan, yn ogystal
â materion cysylltiedig fel gweithredu Nodiadau Cyfarwyddyd ar Ddatganoli. Roedd hefyd wedi
ystyried yr arfer o ddynodi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i weithredu rhwymedigaethau’r Undeb Ewropeaidd. Yr egwyddor ag
oedd yn cael
ei ymchwilio oedd a ddylai’r Cynulliad Cenedlaethol gymryd cyfrifoldeb llwyr dros ddirprwyo
pwerau o’r fath i Weinidogion Cymru.
Roedd cylch gorchwyl yr ymchwiliad fel a ganlyn:
- hyd a lled y gwaith
craffu y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn ei wneud ar hyn o bryd ar y
pwerau dirprwyedig a roddir i Weinidogion Cymru drwy ddarpariaethau yn
Neddfau’r DU a thrwy fecanweithiau statudol eraill;
- i
ba raddau y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn gallu craffu yn gadarn ar
brosesau o’r fath drwy ei Reolau Sefydlog;
- pa
mor berthnasol yw Nodiadau Cyfarwyddyd ar Ddatganoli Llywodraeth y DU yng
ngoleuni datblygiadau cyfansoddiadol diweddar Cymru;
- y
gweithdrefnau ar gyfer Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol o’u cymharu â'r
sefyllfa yn y deddfwrfeydd datganoledig eraill;
- unrhyw
fater arall sy’n berthnasol i’r ymchwiliad.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15:10.
NDM5022 David Melding
(Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr ymchwiliad i'r pwerau a roddir i Weinidogion Cymru yn neddfau’r DU, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ddydd Gwener 23 Mawrth 2012.
Noder: Gosodwyd ymatebion y Prif Weinidog, y Pwyllgor Busnes a Chomisiwn y Cynulliad i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mehefin 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 28/06/2012
Dyddiad y penderfyniad: 27/06/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad