Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i Weinidogion Cymru am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd Gweinidogion Cymru yn ateb cwestiynau unwaith bob pedair wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 14.10

 

Gofynnwyd cwestiynau 1– 7, 10 – 11 ac 13 - 15. Cafodd cwestiynau 7 ac 14 eu grwpio. Cafodd cwestiynau 8, 9 ac 12 eu tynnu yn ôl. Atebwyd cwestiynau 6 ac 13 gan y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 12/07/2012

Dyddiad y penderfyniad: 11/07/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/07/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad