Manylion y penderfyniad
Legislative Consent Motion on The Care Bill
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Defnyddir
hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad
Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel
arfer.
Cyflwynodd
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol y Bil Gofal (PDF, 132KB) ar 25 Mehefin 2013.
Cyflwynodd
y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol adroddiad ar y Memoranda Cydsyniad
Deddfwriaethol diwygiedig ac atodol ar gyfer y Bil Gofal (PDF, 403KB) ar 18
Tachwedd 2013.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
17.48
Cytunwyd o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem
a ganlyn gyda'i gilydd ond gyda
phleidleisiau ar wahân.
NDM5247 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau’r Bil Gofal, sy’n ymwneud
â threfniadau cyfatebol y
DU ar gyfer lleoli oedolion ar draws ffiniau, trefniadau i sicrhau
parhad yn y gofal i oedolion
yn achos methiant gan y darparwr ac i’w gwneud yn ofynnol
i Weinidogion Cymru gydweithredu â’r Awdurdod Ymchwil
Iechyd, i’r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 27/11/2013
Dyddiad y penderfyniad: 26/11/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/11/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad