Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.10
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5387 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod rôl bwysig Swyddfa Archwilio Cymru o ran:
a) darparu gwaith craffu o safon sy’n annibynnol a
chynhwysfawr ar weithgarwch a gwariant y Llywodraeth;
b) cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac
atebol;
c) rhannu arfer da a nodi gwelliannau i’r broses o
gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus; a
d) helpu i sicrhau'r gwerth gorau am arian i bobl Cymru.
2. Yn nodi canfyddiadau adroddiadau olynol a gyhoeddwyd
gan Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n amlygu methiannau sylweddol o ran trefniadau
llywodraethu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys AWEMA;
Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg; Gwesty River
Lodge; Gofal Heb ei Drefnu; Cyllid Addysg Uwch a Chyllid y GIG.
3. Yn nodi'r ymchwiliad parhaus i Gronfa Buddsoddi Cymru
mewn Adfywio, penderfyniad y Gweinidog i ddiddymu'r corff hwn a dychwelyd arian
Ewropeaidd i WEFO, a'r effaith ddilynol ar nifer o brosiectau adfywio sy'n
ceisio cyllid gan CBCA.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal adolygiad trylwyr o'r holl gyllid allanol i
adfer hyder cyhoeddus a hyder buddsoddwyr yng ngallu Llywodraeth Cymru i
fonitro a rheoleiddio cyllid Llywodraeth Cymru;
b) cyhoeddi’r gyfundrefn monitro sydd yn ei lle o ran ei
pholisi rheoli grantiau ac adrodd yn flynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ei
chanlyniadau; a
c) datblygu gweithdrefn gadarn a thryloyw i fynd i'r
afael yn fwy effeithiol â methiannau sylweddol a phenodol ym mholisi
Llywodraeth Cymru a amlygwyd gan adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
48 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Yn
is-bwynt 1c) ar ôl ‘cyhoeddus’ rhoi ‘gan gynnwys drwy gyfrwng gwaith ei
Chyfnewidfa Arfer Da’.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ym
mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘gwasanaethau cyhoeddus allweddol’.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
32 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Dileu
is-bwynt 4a) a rhoi yn ei le:
adolygu’r
cyllid a ddarperir ganddi i gyrff cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill er mwyn
sicrhau bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus ei fod yn cael ei reoli, ei
fonitro a’i werthuso’n effeithiol;
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
32 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Yn
is-bwynt 4c) dileu ‘ym mholisi Llywodraeth Cymru’.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
21 |
0 |
32 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
croesawu’r cydweithio rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac arolygiaethau eraill ac
yn nodi y gallai hyn wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd eu gwaith.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5387 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
cydnabod rôl bwysig Swyddfa Archwilio Cymru o ran:
a)
darparu gwaith craffu o safon sy’n annibynnol a chynhwysfawr ar weithgarwch a
gwariant y Llywodraeth;
b)
cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac atebol;
c)
rhannu arfer da a nodi gwelliannau i’r broses o gyflenwi gwasanaethau
cyhoeddus, gan gynnwys drwy gyfrwng gwaith ei Chyfnewidfa Arfer Da; a
d)
helpu i sicrhau'r gwerth gorau am arian i bobl Cymru.
2. Yn
nodi canfyddiadau adroddiadau olynol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru,
sy'n amlygu methiannau sylweddol o ran trefniadau llywodraethu a chyflenwi
gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys AWEMA; Bwrdd Draenio Mewnol
Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg; Gwesty River Lodge; Gofal Heb ei
Drefnu; Cyllid Addysg Uwch a Chyllid y GIG.
3. Yn
nodi'r ymchwiliad parhaus i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, penderfyniad y
Gweinidog i ddiddymu'r corff hwn a dychwelyd arian Ewropeaidd i WEFO, a'r
effaith ddilynol ar nifer o brosiectau adfywio sy'n ceisio cyllid gan CBCA.
4. Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
cynnal adolygiad trylwyr o'r holl gyllid allanol i adfer hyder cyhoeddus a
hyder buddsoddwyr yng ngallu Llywodraeth Cymru i fonitro a rheoleiddio cyllid
Llywodraeth Cymru;
b)
cyhoeddi’r gyfundrefn monitro sydd yn ei lle o ran ei pholisi rheoli grantiau
ac adrodd yn flynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ei chanlyniadau; a
c)
datblygu gweithdrefn gadarn a thryloyw i fynd i'r afael yn fwy effeithiol â
methiannau sylweddol a phenodol ym mholisi Llywodraeth Cymru a amlygwyd gan
adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru.
5. Yn croesawu’r cydweithio rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac
arolygiaethau eraill ac yn nodi y gallai hyn wella effeithlonrwydd ac
effeithiolrwydd eu gwaith.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 12/12/2013
Dyddiad y penderfyniad: 11/12/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad