Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.59

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5450 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod trafnidiaeth gyhoeddus ddiogel a fforddiadwy yn allweddol i alluogi pobl ifanc i gael gafael ar waith, addysg, hyfforddiant a phrentisiaethau.

 

2. Yn gresynu bod fforddiadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystr sylweddol i weithwyr rhan-amser ac i ddewisiadau ôl-16 pobl ifanc.

 

3. Yn croesawu'r camau a gymerir gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru i gyflwyno cynllun teithio rhatach i bobl ifanc ond yn gresynu bod amrywioldeb sylweddol mewn consesiynau yn arwain at loteri cod post o ran trafnidiaeth fforddiadwy i deithwyr ifanc.

 

4. Yn cydnabod cyflawniadau cynlluniau trafnidiaeth gymunedol gan gynnwys Bwcabus a Grass Routes o ran darparu trafnidiaeth hygyrch a hyblyg i gymunedau lleol.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) gweithio gyda gweithredwyr bysiau i gyflwyno cynllun teithio rhatach cenedlaethol i bobl ifanc drwy gyfradd ‘teithwyr ifanc’ newydd i bobl ifanc 16-18 oed a myfyrwyr;

 

b) archwilio dichonoldeb tocyn tymor i weithwyr rhan-amser;

 

c) archwilio'r potensial i ymestyn cynlluniau trafnidiaeth gymunedol fel Bwcabus a Grass Routes mewn ardaloedd gwledig; a

 

d) archwilio ffyrdd o ddatblygu rhwydwaith carbon isel o drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

12

55

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 12/03/2014

Dyddiad y penderfyniad: 12/03/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad