Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.53
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5485 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd un o bob 10 o blant a'r
glasoed yn dioddef o broblem iechyd meddwl ac yn cydnabod pwysigrwydd ymyriad
cynnar i gynorthwyo pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.
2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i
fynd i'r afael â chanfyddiadau allweddol o adolygiad 2009 o Wasanaethau Iechyd
Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ac yn nodi'r pryderon sylweddol yn adolygiad
dilynol 2013 o faterion diogelwch.
3. Yn gresynu bod nifer y bobl ifanc sy'n aros
mwy na 14 wythnos i gael gwasanaethau seiciatrig plant a'r glasoed wedi cynyddu
bron bedair gwaith dros y flwyddyn ddiwethaf, o 199 ym mis Ionawr 2013 i 736 ym
mis Ionawr 2014.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) mynd i'r afael â'r amrywiad annheg o ran
argaeledd a hygyrchedd CAMHS yng Nghymru;
b) ymchwilio i'r amseroedd aros rhwng asesiad
cyntaf plentyn neu unigolyn ifanc gyda CAMHS a'u hatgyfeirio dilynol i
wasanaeth;
c) adolygu'r trefniadau llywodraethu ar gyfer
unedau cleifion mewnol CAMHS a lleoliadau y tu allan i ardaloedd;
d) cyhoeddi ystadegau aildderbyn yn rheolaidd i
helpu i lywio tueddiadau yn y system rhyddhau cleifion;
e) sicrhau bod yr holl staff clinigol yn CAMHS
wedi cael gwiriadau diogelwch priodol;
f) sefydlu gweithdrefn gadarnach i fyrddau
iechyd adrodd ar leoliadau amhriodol ar wardiau iechyd meddwl i oedolion;
g) egluro statws y Fframwaith Gwasanaeth
Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth;
h) ystyried cyflwyno addysg iechyd meddwl yn y cwricwlwm
ysgol i godi ymwybyddiaeth a helpu i fynd i'r afael â materion o ran stigma; a
i) cyflwyno fframwaith cenedlaethol i sicrhau parhad triniaeth yn y pontio
rhwng CAMHS a Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Oedolion, gan gynnwys system rhannu
gwybodaeth wedi ei symleiddio rhwng darparwyr.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
37 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
2. Yn cydnabod y camau sy’n cael eu cymryd gan
Lywodraethau olynol yng Nghymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl
ifanc; a
3. Yn ategu’r dull partneriaeth, lle y gwelir Llywodraeth Cymru, iechyd,
addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd fel
partneriaid i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ddarparu gwasanaethau
effeithiol yn y maes hwn.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
8 |
16 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn nodi bod y Comisiynydd Plant wedi mynegi pryder dro ar ôl tro ynghylch
y gwasanaethau cymorth i blant a’r glasoed sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu fod gan y toriadau termau real i'r gyllideb iechyd botensial i
lesteirio gallu Byrddau Iechyd Lleol Cymru i gyflawni gwelliannau i wasanaethau
iechyd meddwl plant a’r glasoed.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
37 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar wasanaethau iechyd
meddwl ac yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyhoeddi
gwybodaeth i ddangos ei bod yn monitro ac yn cyflawni'r ymrwymiad hwn a sut y
mae'n effeithio ar wasanaethau CAMHS.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5485 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi y bydd un o bob 10 o blant a'r glasoed
yn dioddef o broblem iechyd meddwl ac yn cydnabod pwysigrwydd ymyriad cynnar i
gynorthwyo pobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial.
2. Yn nodi bod y Comisiynydd Plant wedi mynegi
pryder dro ar ôl tro ynghylch y gwasanaethau cymorth i blant a’r glasoed sydd â
phroblemau iechyd meddwl.
3. Yn cydnabod y camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraethau olynol yng
Nghymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc;
4. Yn ategu’r dull partneriaeth, lle y gwelir Llywodraeth Cymru, iechyd,
addysg, llywodraeth leol a’r trydydd sector yn gweithio gyda’i gilydd fel
partneriaid i fynd i’r afael â’r heriau parhaus o ddarparu gwasanaethau
effeithiol yn y maes hwn;a
5. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i neilltuo gwariant ar wasanaethau
iechyd meddwl ac yn galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i
gyhoeddi gwybodaeth i ddangos ei bod yn monitro ac yn cyflawni'r ymrwymiad hwn
a sut y mae'n effeithio ar wasanaethau CAMHS.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
4 |
20 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 03/04/2014
Dyddiad y penderfyniad: 02/04/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/04/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad