Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y
cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5499 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 'Powering
Wales’ Future'.
2. Yn gresynu bod pleidiau ledled y DU sy'n wleidyddol geidwadol yn parhau
i wrthod y dystiolaeth lethol sy'n cadarnhau'r newid yn yr hinsawdd.
3. Yn cydnabod y gellir sicrhau dyfodol carbon isel cynaliadwy drwy newid
uchelgeisiol o ran sut rydym yn cynhyrchu ynni.
4. Yn cydnabod bod rhwydwaith grid clyfar ac amrywiol yn hanfodol i
sicrhau y gellir diwallu ein hanghenion ynni ar gyfer y dyfodol mewn modd
dibynadwy a chynaliadwy.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) adolygu Nodyn Cyngor Technegol 8 i ganiatáu diweddariadau sy'n
adlewyrchu gwelliannau technolegol a datblygu Ardaloedd Chwilio Strategol
newydd, i annog prosiectau newydd a lleihau crynodiadau presennol;
b) gweithio gyda diwydiant i ddatblygu cynlluniau budd cymunedol
rhanbarthol, er mwyn i gymunedau ar hyd coridorau cludiant a grid gael budd o'r
buddsoddiadau economaidd sydd ynghlwm wrth ynni adnewyddadwy;
c) sicrhau manteision economaidd mwyaf posibl ynni adnewyddadwy drwy
weithio gyda datblygwyr a sefydliadau addysgol i ehangu cadwyni cyflenwi a
chanolfannau rhagoriaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr a
phrentisiaid;
d) archwilio datblygu Canolfannau Ynni Morol i ddarparu amgylchedd diogel
i weithgynhyrchu a phrofi technolegau morol sy'n dod i'r amlwg i helpu Cymru i
gael mantais gystadleuol;
e) canolbwyntio cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer ymchwil i dechnoleg storio
drydanol ar raddfa fawr fel batris;
f) archwilio potensial datblygu cyfleusterau storio pwmp newydd er mwyn
gallu storio mwy o ynni at ddefnydd yn ystod oriau brig a sicrhau cyflenwad
sefydlog o drydan carbon isel; a
g) datblygu cyngor technegol newydd ar gyfer
hollti hydrolig, gan gynnwys profion tyllu, i sicrhau bod diogelwch a diogelu'r
amgylchedd yn cyrraedd y safonau uchaf.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
43 |
48 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le “Yn nodi bod pobl
ym mhob rhan o gymdeithas a fydd yn dal i gwestiynu'r rhesymau sydd wrth wraidd
newidiadau yn ein hinsawdd fyd-eang”.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
37 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ym mhwynt 2, dileu ‘pleidiau ledled y DU sy'n
wleidyddol geidwadol’ a rhoi ‘Llywodraeth y DU’ yn ei le.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
16 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at y cyfyngiadau a osodwyd ar
gymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes ynni.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
11 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys is-bwynt 5b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
archwilio potensial sefydlu cwmni ynni
cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu;
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu is-bwynt 5g
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
23 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
cyllido cynllun ôl-ffitio ledled y wlad i
leihau'r defnydd o ynni a sicrhau biliau ynni is i ddefnyddwyr;
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
11 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 5:
cyhoeddi unrhyw ymchwil i ddichonoldeb adeiladu
cysylltiad grid rhwng gogledd a de Cymru;
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru
gefnogi amrywiol fathau o ynni adnewyddadwy, a buddsoddi ynddynt, er mwyn
cyflawni’r amcanion allweddol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd ac yn nodi
bod digon o geisiadau ar gyfer ffermydd gwynt ar y tir ar y gweill yn y system
gynllunio i fodloni targedau ynni adnewyddadwy’r DU
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
7 |
30 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai’r Bil Cynllunio roi mwy o rym
i gymunedau lleol dderbyn neu wrthod cynlluniau ynni adnewyddadwy penodol yn ôl
yr hyn sydd orau i’w hardal leol.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
18 |
5 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5499 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyhoeddi adroddiad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru 'Powering
Wales’ Future'.
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod y dystiolaeth lethol
sy'n cadarnhau'r newid yn yr hinsawdd.
3. Yn gresynu at y cyfyngiadau a osodwyd ar
gymhwysedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym maes ynni.
4. Yn cydnabod y gellir sicrhau dyfodol carbon isel cynaliadwy drwy newid
uchelgeisiol o ran sut rydym yn cynhyrchu ynni.
5. Yn cydnabod bod rhwydwaith grid clyfar ac amrywiol yn hanfodol i
sicrhau y gellir diwallu ein hanghenion ynni ar gyfer y dyfodol mewn modd
dibynadwy a chynaliadwy.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) adolygu Nodyn Cyngor Technegol 8 i ganiatáu diweddariadau sy'n
adlewyrchu gwelliannau technolegol a datblygu Ardaloedd Chwilio Strategol
newydd, i annog prosiectau newydd a lleihau crynodiadau presennol;
b) archwilio potensial sefydlu cwmni ynni
cyhoeddus, hyd braich, nid er elw i'w ddosbarthu;
c) gweithio gyda diwydiant i ddatblygu cynlluniau budd cymunedol
rhanbarthol, er mwyn i gymunedau ar hyd coridorau cludiant a grid gael budd o'r
buddsoddiadau economaidd sydd ynghlwm wrth ynni adnewyddadwy;
d) sicrhau manteision economaidd mwyaf posibl ynni adnewyddadwy drwy
weithio gyda datblygwyr a sefydliadau addysgol i ehangu cadwyni cyflenwi a
chanolfannau rhagoriaeth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o beirianwyr a
phrentisiaid;
e) archwilio datblygu Canolfannau Ynni Morol i ddarparu amgylchedd diogel
i weithgynhyrchu a phrofi technolegau morol sy'n dod i'r amlwg i helpu Cymru i
gael mantais gystadleuol;
f) canolbwyntio cefnogaeth y cyhoedd ar gyfer ymchwil i dechnoleg storio
drydanol ar raddfa fawr fel batris;
g) archwilio potensial datblygu cyfleusterau storio pwmp newydd er mwyn
gallu storio mwy o ynni at ddefnydd yn ystod oriau brig a sicrhau cyflenwad
sefydlog o drydan carbon isel;
h) cyllido cynllun ôl-ffitio ledled y wlad i leihau'r defnydd o ynni a
sicrhau biliau ynni is i ddefnyddwyr; a
i) cyhoeddi unrhyw ymchwil i ddichonoldeb
adeiladu cysylltiad grid rhwng gogledd a de Cymru;
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
5 |
11 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 08/05/2014
Dyddiad y penderfyniad: 07/05/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/05/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad