Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.11

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM5623 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod bod pobl drawsryweddol yng Nghymru ymhlith y rhai mwyaf agored i arwahanrwydd cymdeithasol a rhagfarn.

 

2. Yn nodi bod y ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer y gymuned drawsryweddol yng Nghymru yn annigonol mewn nifer o feysydd, gan gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant, gofal iechyd a thai.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) pennu Gweinidog i gymryd cyfrifoldeb am y materion y mae'r gymuned drawsryweddol yn eu hwynebu;

 

b) llunio cynllun gweithredu ar gyfer canfod rhagfarn sefydliadol, gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus a mynd i'r afael â stigma cymdeithasol, aflonyddu a bwlio ar gyfer y grŵp hwn; ac

 

c) adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn 6 mis i'r dyddiad y caiff y Gweinidog ei benodi.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

19

47

Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 20/11/2014

Dyddiad y penderfyniad: 19/11/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad