Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.02

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5727 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod un ym mhob tri o blant yng Nghymru yn byw o dan y llinell dlodi.

2. Yn nodi bod gan Gymru y lefelau cyrhaeddiad addysgol isaf yn y DU, sy'n cael effaith arbennig o negyddol ar gymunedau difreintiedig.

3. Yn nodi bod cyfraddau gordewdra ymhlith plant, cyfraddau ysmygu ymhlith menywod ifanc a chyfraddau yfed alcohol ymysg pobl ifanc yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr.

4. Yn nodi bod pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng Nghymru yn yfed mwy o alcohol bob wythnos nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.

5. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru a fydd yn cynyddu'r Grant Amddifadedd Disgyblion i £1,150 fesul disgybl, yn ymestyn y grant i blant o dan bump oed, ac yn cyflwyno tocynnau rhatach i deithwyr ifanc.

6. Yn credu y dylai pobl gael eu grymuso i fyw'r bywyd y maent am ei fyw ac nad oes lle i laesu dwylo yn y frwydr i sicrhau cydraddoldeb i bawb.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddarparu mynediad at y fenter Dechrau'n Deg i bob plentyn yng Nghymru ar sail angen yn hytrach na lleoliad daearyddol;

b) gwella'r system o ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon a sefydlu academi arweinyddiaeth mewn addysg i Gymru;

c) diwygio fframwaith Estyn i sicrhau bod mwy o ffocws yn cael ei roi ar addysg a bwyta'n iach ac ymarfer corff mewn ysgolion;

d) canolbwyntio mwy o adnoddau ar annog pobl ifanc i roi'r gorau i ysmygu a mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon; ac

e) sicrhau bod pob prentis yn cael hyfforddiant o'r safon uchaf sy'n rhoi cymwysterau cludadwy iddynt.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

46

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys pwynt 5 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

Yn nodi'r cynnydd a ragwelir yn nifer y plant sy'n byw mewn tlodi i 3.4 miliwn ar draws y DU erbyn 2020 ac yn nodi hefyd effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y cynnydd mewn lefelau tlodi plant.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

34

0

16

50

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

21

0

29

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Yn is-bwynt 7b), dileu 'sefydlu academi arweinyddiaeth mewn addysg i Gymru' a rhoi yn ei le 'sicrhau ei bod yn symud ymlaen yn effeithlon o'r ddarpariaeth newydd o addysg gychwynnol i athrawon'.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

43

0

4

47

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

sicrhau bod ysgolion yn dangos tystiolaeth eu bod yn defnyddio'r grant amddifadedd disgyblion i helpu disgyblion o gartrefi incwm isel.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

49

1

0

50

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5727 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod un ym mhob tri o blant yng Nghymru yn byw o dan y llinell dlodi.

2. Yn nodi bod gan Gymru y lefelau cyrhaeddiad addysgol isaf yn y DU, sy'n cael effaith arbennig o negyddol ar gymunedau difreintiedig.

3. Yn nodi bod cyfraddau gordewdra ymhlith plant, cyfraddau ysmygu ymhlith menywod ifanc a chyfraddau yfed alcohol ymysg pobl ifanc yn waeth yng Nghymru nag yn Lloegr.

4. Yn nodi bod pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed yng Nghymru yn yfed mwy o alcohol bob wythnos nag mewn unrhyw ran arall o'r DU.

5. Yn nodi'r cynnydd a ragwelir yn nifer y plant sy'n byw mewn tlodi i 3.4 miliwn ar draws y DU erbyn 2020 ac yn nodi hefyd effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar y cynnydd mewn lefelau tlodi plant.

6. Yn croesawu'r cytundeb cyllidebol diweddar rhwng Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a Llywodraeth Cymru a fydd yn cynyddu'r Grant Amddifadedd Disgyblion i £1,150 fesul disgybl, yn ymestyn y grant i blant o dan bump oed, ac yn cyflwyno tocynnau rhatach i deithwyr ifanc.

7. Yn credu y dylai pobl gael eu grymuso i fyw'r bywyd y maent am ei fyw ac nad oes lle i laesu dwylo yn y frwydr i sicrhau cydraddoldeb i bawb.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ddarparu mynediad at y fenter Dechrau'n Deg i bob plentyn yng Nghymru ar sail angen yn hytrach na lleoliad daearyddol;

b) gwella'r system o ddatblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon a sicrhau ei bod yn symud ymlaen yn effeithlon o'r ddarpariaeth newydd o addysg gychwynnol i athrawon;

c) diwygio fframwaith Estyn i sicrhau bod mwy o ffocws yn cael ei roi ar addysg a bwyta'n iach ac ymarfer corff mewn ysgolion;

d) canolbwyntio mwy o adnoddau ar annog pobl ifanc i roi'r gorau i ysmygu a mynd i'r afael â thybaco anghyfreithlon; ac

e) sicrhau bod pob prentis yn cael hyfforddiant o'r safon uchaf sy'n rhoi cymwysterau cludadwy iddynt.

f) sicrhau bod ysgolion yn dangos tystiolaeth eu bod yn defnyddio'r grant amddifadedd disgyblion i helpu disgyblion o gartrefi incwm isel

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

0

8

42

50

Gwrthodwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 19/03/2015

Dyddiad y penderfyniad: 18/03/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad