Manylion y penderfyniad

Debate on the Finance Committee’s report on Best Practice Budget Process Part 2 - Planning and implementing new budget procedures

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad i arferion gorau o ran y gyllideb er mwyn sicrhau bod prosesau effeithiol yn eu lle i graffu ar y pwerau ariannol ym Mil Cymru (Bil Senedd y DU).  Penderfynodd y Pwyllgor ystyried yr ymchwiliad mewn dwy ran. Cytunwyd i ystyried:

 

Rhan 1 - yr arfer gorau mewn prosesau cyllidebol a'r modd y gellir ei gymhwyso yng Nghymru – cwblhau Gorffennaf 2014

 

  • Yr arfer gorau yn rhyngwladol ar gyfer atebolrwydd ariannol a phrosesau cyllidebol, yn enwedig mewn gweinyddiaethau datganoledig
  • Cyfleoedd i'r prosesau cyllidebol gynnwys cysyniadau newydd - fel gwariant ataliol, cyllidebau blynyddol llai cyfyngedig, a chyllidebau sy'n seiliedig ar raglenni/canlyniadau.

 

I lywio ei waith, gofynnodd y Pwyllgor yn benodol am farn ar unrhyw un o’r pwyntiau a ganlyn, neu ar bob un ohonynt:

 

Yr arfer gorau yn rhyngwladol  – beth yw egwyddorion atebolrwydd ariannol?  Sut y mae gwledydd eraill yn sicrhau atebolrwydd ariannol datganoledig gan barhau i fod â rheolaeth ariannol ganolog?  

 

A yw'r pwerau datganoledig wedi'u teilwra ar gyfer setliad datganoli Cymru – gan fod y pwerau ym Mil Cymru wedi'u seilio ar y pwerau yn Neddf yr Alban, a yw hyn yn creu problemau annisgwyl yng Nghymru?

 

Cysylltu cyllidebau â chanlyniadau   pa brosesau cyllidebol newydd sydd eu hangen i wella'r cysylltiadau rhwng polisïau, rhaglenni gwariant a chanlyniadau? Sut y byddai modd gwahaniaethu rhwng y canlyniadau a gynhyrchwyd gan Lywodraeth y DU a'r economi fyd-eang a'r canlyniadau a gynhyrchwyd gan bolisïau lleol Llywodraeth Cymru?

 

 

 

Rhan 2 - cynllunio gweithdrefnau cyllidebol newydd a'u rhoi ar waith - parhaus

 

  • Rheolaeth ariannol - amlinellu dulliau cyllidebol o reoli'r pwerau newydd o ran trethi a benthyca, a sut y bydd y rhain yn effeithio ar floc Cymru ac economi Cymru.  Yn benodol, sut y caiff argymhellion Comisiwn Holtham eu bodloni.
  • Rhoi gweithdrefnau cyllidebol newydd ar waith i adlewyrchu'r pwerau ychwanegol.

 

Er mwyn llywio ei ddull gweithredu, mae'r Pwyllgor yn benodol am glywed eich barn ar yr holl bwyntiau a ganlyn, neu ar unrhyw un ohonynt:

 

 

Materion o ran trethi a benthyca a nodwyd yn Adroddiad Holtham – e.e. yr effaith ar y grant bloc a'r dulliau o fynegeio addasiadau; sail y trethi datganoledig; diffyg terfyn isaf yn seiliedig ar anghenion; dim penderfyniad clir ar faterion cydgyfeirio; maint y trethi a gynhyrchir a faint y gellir ei fenthyca yn erbyn yr incwm hwn; ar ba sail y byddai unrhyw drethi newydd yn cael eu codi ac a fyddant yn cael eu seilio ar egwyddorion neu reolau?

 

Rheoli risgiau cyllidebol – pa risgiau cyllidebol ychwanegol sydd ynghlwm wrth y pwerau newydd a sut y caiff y rhain eu monitro a'u rheoli (e.e. sut y caiff diffygion refeniw eu rheoli)?

 

Sut y caiff y prosesau cyllidebol newydd hyn eu gwneud yn dryloyw ac yn ddealladwy – i'r holl randdeiliaid, a sut y gall rhanddeiliaid fod yn rhan o'r broses gyllidebol.

 

Cynllunio cyllideb y DU – sut y mae'r Cynulliad yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a chyrff cyhoeddus eraill o dan y trefniadau newydd; sut y dylid amserlennu'r broses gyllidebol i ateb gofynion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (e.e. adolygiadau o wariant y DU)?

 

Gweithredu – sut y mae'r Cynulliad yn datganoli pwerau ariannol yn ffurfiol; sut y mae'r Cynulliad yn craffu ar ofynion Llywodraeth Cymru o ran trethi, benthyca a gwariant, ac yn eu cymeradwyo a'u monitro; sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cymeradwyaeth Trysorlys Ei Mawrhydi ar gyfer pwerau newydd i godi trethi ac i fenthyca, a pha rôl y dylai'r Cynulliad ei chwarae wrth gytuno â newidiadau o'r fath.

 

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad i gasglu tystiolaeth am arferion gorau o ran y gyllideb.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.01

NDM5748 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar ei ymchwiliad i Arferion Gorau o ran y Gyllideb Rhan 2 - Cynllunio gweithdrefnau cyllidebol newydd a'u rhoi ar waith, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mawrth 2015.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Ebrill 2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 30/04/2015

Dyddiad y penderfyniad: 29/04/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/04/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad