Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.28

Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5746 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac aneffeithiol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb unrhyw beth i gymryd ei le.

2. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim 2014 ar Twf Swyddi Cymru wedi canfod:

a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod o hyd i gyflogaeth heb y cynllun;

b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r bobl ifanc hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac

c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun wedi'u cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r cyfartaledd ar gyfer eu grŵp oedran.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio cynlluniau cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar wella lefelau sgiliau, cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf tebygol o wynebu diweithdra hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd yn helpu i adeiladu economi gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

37

41

Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 – Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

1. Yn cydnabod bod economi Deyrnas Unedig gref:

a) yn creu'r amodau ar gyfer twf o ran cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc;

b) yn herio ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi a diwallu sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad gyflogaeth sy’n tyfu; ac

c) yn caniatáu i entrepreneuriaid ifanc fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

35

0

7

42

Derbyniwyd Gwelliant 1.

Gwelliant 2 – Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod cynllun blaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn ac yn galw am adfer rhaglen sy'n cyfateb iddo yn gyflym.

Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

9

21

41

Gwrthodwyd Gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5746 Aled Roberts (Gogledd Cymru):

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod economi Deyrnas Unedig gref:

a) yn creu'r amodau ar gyfer twf o ran cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc;

b) yn herio ysgolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi a diwallu sgiliau sydd eu hangen yn y farchnad gyflogaeth sy’n tyfu; ac

c) yn caniatáu i entrepreneuriaid ifanc fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd.

2. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac aneffeithiol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb unrhyw beth i gymryd ei le.

3. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim 2014 ar Twf Swyddi Cymru wedi canfod:

a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod o hyd i gyflogaeth heb y cynllun;

b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r bobl ifanc hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac

c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y cynllun wedi'u cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r cyfartaledd ar gyfer eu grŵp oedran.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio cynlluniau cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar wella lefelau sgiliau, cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf tebygol o wynebu diweithdra hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd yn helpu i adeiladu economi gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

28

41

Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 30/04/2015

Dyddiad y penderfyniad: 29/04/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/04/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad