Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 18.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5770
Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gwrthwynebu'n gryf unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i
ddiddymu Deddf Hawliau Dynol 1998, a fyddai'n tanseilio setliad datganoli Cymru
ac yn gam yn ôl o ran hyrwyddo a diogelu hawliau dynol.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
15 |
39 |
Derbyniwyd y Cynnig heb
ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 04/06/2015
Dyddiad y penderfyniad: 03/06/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/06/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad