Manylion y penderfyniad
Bil Cymru Drafft
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Deisebau - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cafodd Bil Cymru drafft ei gyhoeddi gan
Llywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015. Roedd cyhoeddi’r Bil drafft yn gyfle i graffu
ar cynigion cyn i’r Bil gael ei gyflwyno’n ffurfiol yn Senedd y DU.
Diben ymchwiliad y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i Fil Cymru Drafft
Llywodraeth y DU oedd archwilio, yn benodol:
- i ba raddau y mae’r model cadw pwerau arfaethedig o
gymhwysedd deddfwriaethol yn glir, yn gydlynol ac ymarferol, ac yn darparu
fframwaith cryf i alluogi’r Cynulliad i ddeddfu o’i fewn;
- y profion ar gyfer penderfynu cymhwysedd fel y’u
nodir yng nghymal 3 ac Atodlenni 1 a 2 i’r Bil drafft;
- i ba raddau y mae’r fframwaith newydd arfaethedig yn
newid cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu;
- y pwerau deddfwriaethol arfaethedig sydd ar gael mewn
meysydd pwnc penodol o ganlyniad i Atodlenni 1 a 2 i’r Bil drafft;
- y cynigion i’r Cynulliad gael pwerau dros ei
weithrediad (er enghraifft, mewn cysylltiad â’i enw, nifer yr Aelodau
Cynulliad a phwerau etholiadol ar gyfer y Cynulliad);
- y pwerau ychwanegol i’w rhoi i Weinidogion Cymru, yn
enwedig i wneud is-ddeddfwriaeth;
- y cynigion mewn perthynas â pharhauster y Cynulliad a
Llywodraeth Cymru;
- y cynigion mewn perthynas â’r confensiwn ynghylch
Senedd y DU yn deddfu ar faterion datganoledig;
- goblygiadau’r Bil drafft ar gyfer cyfansoddiad y Deyrnas
Unedig; ac
- unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r pwerau
deddfwriaethol y mae eu hangen ar y Cynulliad i ddeddfu’n effeithiol.
Tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor
ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth
am y pwnc hwn.
Mae’r dystiolaeth hon yn
cynnwys gohebiaeth gan Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a fu’n ystyried
sut y gallai effeithio ar y meysydd pwnc y maent yn gyfrifol am graffu arnynt.
Hefyd, cymerodd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dystiolaeth mewn cyfarfodydd
ffurfiol.
Gwaith craffu rhyngseneddol ar y cyd
Bu Pwyllgor
Dethol Materion Cymreig Senedd y DU, hefyd yn trafod y ddeddfwriaeth
ddrafft. Cynhaliodd y ddau bwyllgor sesiwn dystiolaeth ar y cyd yn y Senedd ar 9
Tachwedd 2015.
Adroddiad
Cafodd adroddiad y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad ei gyhoeddi ar 4
Rhagfyr, 2015.
Darllenwch ein hadroddiad cryno ar ein
hymchwiliad.
Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod
Llawn ar yr adroddiad ar Fil Cymru drafft ar 13 Ionawr 2016. Gallwch
wylio’r ddadl eto ar senedd.tv
a gallwch hefyd ddarllen Cofnod
y Trafodion.
Mae
rhagor o wybodaeth am Fil Cymru ar gael ar dudalennau’r Gwasanaeth Ymchwil.
Penderfyniadau:
6.1 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion
Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Dyddiad cyhoeddi: 11/11/2015
Dyddiad y penderfyniad: 05/11/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/11/2015 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol:
- FIN(4)-24-15 P5 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (13 Hydref 2015) (Saesneg yn unig) PDF 767 KB
- FIN(4)-24-15 P6 Llythyr gan Brif Weinidog Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid (23 Hydref 2015) PDF 583 KB
- FIN(4)-24-15 P7 Llythyr pellach gan Brif Weinidog Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid (30 Hydref 2015) PDF 372 KB
- FIN(4)-24-15 P8 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i Archwilydd Cyffredinol Cymru (20 Hydref 2015) (Saesneg yn unig) PDF 710 KB
- FIN(4)-24-15 P9 Llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (29 Hydref 2015) (Saesneg yn unig) PDF 531 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu