Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.51
Gohiriwyd
y bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar
y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5906 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn gresynu at y ffaith bod Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran
canlyniadau addysgol, yn enwedig ym meysydd allweddol darllen, mathemateg a
gwyddoniaeth;
2.
Yn credu y dylai polisïau addysgol helpu i feithrin arweinyddiaeth a
llywodraethiant cryf, addysgu rhagorol, dyheadau uchel a chyfleoedd i arloesi;
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rymuso athrawon ac arweinwyr ysgolion sydd wedi
dangos gallu ac arloesedd â'r rhyddid i ragori drwy:
a)
lleihau maint dosbarthiadau babanod i 25 i roi mwy i amser i athrawon
ymgymryd â gwaith dysgu gyda disgyblion unigol;
b)
cyflwyno rhaglen penaethiaid dawnus i annog arweinwyr i ddefnyddio eu
harbenigedd i gefnogi ysgolion sy'n tanberfformio;
c)
sicrhau bod athrawon yn cael amser wedi'i ddiogelu i ymgymryd â datblygiad
proffesiynol parhaus;
d)
cyflwyno cynrychiolaeth etholedig o gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i'r Cyngor
Gweithlu Addysg i sicrhau atebolrwydd gwirioneddol; ac
e)
cyflwyno system o fonitro disgyblion unigol, fel y gall athrawon ganolbwyntio
ar brofiadau, cyflawniadau a deilliannau disgyblion unigol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
43 |
48 |
Gwrthodwyd
y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Cynnwys
pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn
credu mai buddsoddi mewn addysg gynnar yw'r ffordd mwyaf effeithiol o gynyddu
cyrhaeddiad addysgol.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
10 |
0 |
48 |
Derbyniwyd
Gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu
pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i rymuso athrawon ac arweinwyr ysgolion sydd wedi
dangos gallu ac arloesedd gan roi'r rhyddid iddynt ragori drwy:
a) cyflwyno
rhaglen gynhwysfawr i benaethiaid sy'n cynnig datblygu proffesiynol parhaus a
chymorth parhaus i'r holl benaethiaid;
b)
gweithio gyda'r proffesiwn addysgu i ddatblygu a chynnig cyfres o raglenni
datblygu proffesiynol parhaus sy'n darparu ar gyfer anghenion athrawon ac
ysgolion;
c)
sicrhau bod athrawon yn cael amser wedi'i ddiogelu i ymgymryd â datblygiad
proffesiynol parhaus gorfodol; a
d)
dileu'r baich biwrocrataidd ar athrawon i'w galluogi i weithredu system monitro
unigol i ddisgyblion.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
10 |
0 |
38 |
48 |
Gwrthodwyd
Gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ym
mhwynt 3, dileu is-bwynt a).
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
0 |
15 |
48 |
Derbyniwyd
Gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu
is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
cyflwyno
datblygu proffesiynol parhaus gorfodol i athrawon.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant.
Gwelliant 5 -Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw
ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad o gapasiti addysgu ac anghenion
hyfforddiant er mwyn galluogi cynllunio gweithlu cywir.
Cynhaliwyd pleidlais ar
Welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5906 Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn gresynu at y ffaith bod Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y DU o ran
canlyniadau addysgol, yn enwedig ym meysydd allweddol darllen, mathemateg a
gwyddoniaeth;
2. Yn
credu mai buddsoddi mewn addysg gynnar yw'r ffordd mwyaf effeithiol o gynyddu
cyrhaeddiad addysgol.
3.
Yn credu y dylai polisïau addysgol helpu i feithrin arweinyddiaeth a
llywodraethiant cryf, addysgu rhagorol, dyheadau uchel a chyfleoedd i arloesi;
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i rymuso athrawon ac arweinwyr ysgolion sydd wedi
dangos gallu ac arloesedd â'r rhyddid i ragori drwy:
a)
cyflwyno rhaglen penaethiaid dawnus i annog arweinwyr i ddefnyddio eu
harbenigedd i gefnogi ysgolion sy'n tanberfformio;
b)
sicrhau bod athrawon yn cael amser wedi'i ddiogelu i ymgymryd â datblygiad
proffesiynol parhaus;
c)
cyflwyno cynrychiolaeth etholedig o gyfoedion o'r proffesiwn addysgu i'r Cyngor
Gweithlu Addysg i sicrhau atebolrwydd gwirioneddol; a
d)
cyflwyno system o fonitro disgyblion unigol, fel y gall athrawon ganolbwyntio
ar brofiadau, cyflawniadau a deilliannau disgyblion unigol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei
bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y
gwelliant.
Dyddiad cyhoeddi: 10/12/2015
Dyddiad y penderfyniad: 09/12/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 09/12/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad