Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.14

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5938 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod bod argyfwng tai yng Nghymru, gan nodi yn benodol:

a) bod targedau tai Llywodraeth Cymru ymhell o argymhellion yr adroddiad Holmans ar adeiladu tai a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2031;

b) yr amcangyfrifir bod dros 90,000 o aelwydydd ar restrau aros tai cymdeithasol;

c) bod llawer o brynwyr tro cyntaf yn parhau i gael trafferth i fynd ar yr ysgol eiddo; a

d) bod yn rhaid gwneud mwy i amddiffyn tenantiaid rhag arferion annheg ac i wella ansawdd a diogelwch cartrefi gwael yn y sector rhentu preifat.

2. Yn credu bod angen mwy o uchelgais i sicrhau bod pob person yn cael cartref diogel a fforddiadwy, sy'n gallu bod yn ffactor allweddol o ran hybu iechyd, lles a chyfle, ac y dylai hyn gynnwys:

a) dyblu'r targed ar gyfer tai fforddiadwy i 20,000 yn ystod y Cynulliad nesaf;

b) cynllun rhentu i berchen i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartrefi eu hunain heb flaendal; ac

c) gweithredu i wella ansawdd a diogelwch cartrefi yn y sector rhentu preifat a thribiwnlys eiddo preswyl i feirniadu ar anghydfodau rhwng landlordiaid a thenantiaid.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

4

0

44

48

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Dileu pwynt 1a) a rhoi yn ei le:

bod targedau tai Llywodraeth Cymru ymhell o:

i) argymhellion adroddiad Holmans ynghylch adeiladu tai a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2031;

ii) argymhellion adroddiad Sefydliad Bevan, 'The Shape of Wales to Come', a nifer y tai fforddiadwy sydd eu hangen erbyn 2028; a

iii) y farn a fynegwyd gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru ar fuddsoddi mewn tai cymdeithasol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

19

0

27

46

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

Ym mhwynt 2:          

Dileu 'dylai' a rhoi 'gallai' yn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

20

0

28

48

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Elin Jones (Ceredigion)

Cynnwys isbwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 2:

diwygio cyfraith tenantiaeth i gyflwyno rheolaethau rhent a rhoi tenantiaethau tymor hwy, mwy diogel ac o ansawdd uwch i rentwyr;

sicrhau bod eiddo gwag yn cael ei ddefnyddio eto;

datblygu cwmnïau tai o dan berchnogaeth gyhoeddus er mwyn ymateb i angen lleol.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

13

0

35

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod angen i Gymru weithredu rhaglen ddiwygio tai gynhwysfawr i gynyddu'r cyflenwad ac felly gwneud tai yn fwy fforddiadwy.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

24

0

25

49

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Cynulliad wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliannau i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2016

Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad