Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 18.09
NDM6011 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn
cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector gofal sylfaenol yng Nghymru, gyda
phwysau cynyddol ar adnoddau a phoblogaeth sy'n heneiddio gyda mwy o anghenion
gofal cymhleth;
2. Yn
nodi bod y canran o gyllid y GIG a gaiff ei wario ar ymarfer cyffredinol wedi
gostwng o 10.27 y cant yn 2005-2006 i 7.9 y cant yn 2015-2016;
3. Yn
nodi bod gan Gymru y nifer leiaf ond un o feddygon teulu yn y DU, gyda 23 y
cant o feddygon teulu dros 50 oed ac anawsterau o ran hyfforddi digon o
feddygon teulu i gyflawni gofynion y gweithlu yn y dyfodol; a
4. Yn
galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i:
a)
cyflwyno cynllun mynediad at feddygon teulu i ariannu dulliau arloesol o
ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol i wella mynediad cleifion at feddygon
teulu;
b)
gwella argaeledd hyfforddiant iechyd meddwl arbenigol ar gyfer gweithwyr iechyd
proffesiynol;
c)
adolygu gallu'r gweithlu ymarfer cyffredinol i ddiwallu anghenion cleifion;
d)
gwella addysg y cyhoedd mewn perthynas â gwasanaethau iechyd priodol;
e)
adolygu'r gofynion gweinyddol y mae meddygon teulu yn eu hwynebu; a
f)
gwella'r broses o hyrwyddo ymarfer cyffredinol fel proffesiwn.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 17/03/2016
Dyddiad y penderfyniad: 16/03/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad