Manylion y penderfyniad

Debate: The First Supplementary Budget 2016-17

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Gosododd Llywodraeth Cymru ei Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2016-17 ar 21 Mehefin 2016. Gellir dod o hyd i’r cynnig ynghylch y gyllideb, y Dyraniadau Prif Grwpiau Gwariant, a nodyn esboniadol isod. Mae’r gyllideb yn diwygio Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2016-17.

 

Cyhoeddodd Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad erthygl blog Pigion ar y gyllideb.

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid gynigion y cyllideb a cyhoeddodd adroddiad ar y gyllideb atodol (PDF, 747KB) ar 8 Gorffennaf 2016.

 

Anfonodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol nodyn i’r Pwyllgor Cyllid ar Ardal Fenter Glannau Port Talbot (PDF, 107KB) ar 8 Gorffennaf 2016.

 

Cymeradwyodd y Cynulliad cyfan y gyllideb atodol yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf 2016.

 

Anfonodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid (PDF, 303KB) ar 18 Awst 2016.

Penderfyniadau:

Dechreuodd yr eitem am 18.44

NDM6046 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
 
Cynnig bod y Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 20.30, yn cymeradwyo'r Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer y flwyddyn ariannol 2016-17 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a e-bostiwyd at Aelodau'r Cynulliad ddydd Mawrth, 21 Mehefin 2016.

Troednodyn:

Yn unol â'r darpariaethau perthnasol yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 20, mae'r Gyllideb Atodol yn cynnwys y wybodaeth ganlynol:

  i.           y datganiad ysgrifenedig sy'n ofynnol o dan adran 125(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru;

 ii.           yr adnoddau y cytunwyd arnynt gan y Trysorlys ar gyfer cyllideb bloc Cymru yn y flwyddyn ariannol y mae'r cynnig yn ymwneud â hi;

iii.           cysoniad rhwng yr adnoddau a ddyrannwyd ar gyfer cyllideb bloc Cymru gan y Trysorlys a'r adnoddau yr awdurdodir eu defnyddio yn y cynnig;

iv.           cysoniad rhwng y symiau amcangyfrifol sydd i'w talu i Gronfa Gyfunol Cymru gan yr Ysgrifennydd Gwladol a'r symiau yr awdurdodir eu talu o'r Gronfa yn y cynnig; a

    v.        cysoniad rhwng yr adnoddau i'w hawdurdodi o dan adran 125(1)(a) a (b) o'r Ddeddf a'r symiau yr awdurdodir eu talu o Gronfa Gyfunol Cymru o dan adran 125(1)(c).

 

Rhoddwyd y wybodaeth ychwanegol a ganlyn i’r Aelodau:

-     nodyn yn egluro’r prif newidiadau o’r cynlluniau blaenorol.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 13/07/2016

Dyddiad y penderfyniad: 12/07/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 12/07/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd