Manylion y penderfyniad

News Journalism in Wales: Evidence session 5

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Statws: Wedi’i gwblhau

Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy

Diben:

Inquiry5

 

Mewn ymateb i bryderon ynghylch dirywiad newyddiaduraeth newyddion masnachol yng Nghymru – a'r effaith y gallai hyn ei chael o ran cymdeithas sifig llai sylweddol yn Nghymru, ac etholwyr nad sy’n meddu ar gymaint o wybodaeth i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif – cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru.

 

Rhwng mis Ebrill a mis Mai 2017 gofynnodd y Pwyllgor i bobl am ymatebion ysgrifenedig ar y pynciau a ganlyn:

 

·      Modelau arloesol i gefnogi newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru, gan gynnwys:

 

o  modelau presennol o ddarpariaeth newyddion, yng Nghymru ac yn rhyngwladol, y gellid ei hefelychu;

o  modelau busnes arloesol mewn meysydd eraill y gellid eu cymhwyso i newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru.

 

·      Y ddarpariaeth newyddiaduraeth newyddion yng Nghymru, gan gynnwys:

 

o  Papurau newydd lleol a rhanbarthol;

o  Gwefannau newyddion;

o  Darparwyr newyddion hyper-leol;

o  Teledu lleol.

 

·      Cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer newyddiaduraeth newyddion lleol.

 

Bu’r Pwyllgor yn cynnal sgwrs â’r rheini sydd â diddordeb yn eu cyfarfodydd rhwng mis Mai a mis Hydref 2017.

 

 

Adroddiad  

Cyhoeddodd y Pwyllgor adroddiad o’u canfyddiadau ym mis Mai 2018.

 

Ymateb i'r adroddiad

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i'r adroddiad.

 

Penderfyniadau:

2.1 Ni ddaeth Daniel Glyn, Rheolwr Orsaf, Made in Cardiff.

2.2 Atebodd Peter Curtis gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

 

Dyddiad cyhoeddi: 28/07/2017

Dyddiad y penderfyniad: 22/06/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/06/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd

Dogfennau Cefnogol: