Manylion y penderfyniad
Impact of the Social Services and Well-being (Wales) Act 2014 in relation to Carers: Evidence session with Association of Directors of Social Services Cymru and Welsh Local Government Association
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Inquiry5
Cynhaliodd y Pwyllgor
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn cynnal ymchwiliad
ynghylch gofalwyr a fydd yn canolbwyntio ar effaith Deddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, a ddaeth i rym ym mis Ebrill
2016, yn cryfhau’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr gan y gwasanaethau
cymdeithasol, ac mae’n cynnwys rhoi’r hawl iddynt gael asesiad a chael cymorth
ar gyfer eu hanghenion cymwys. Yn y Ddeddf, diffinnir gofalwr fel "person
sy'n darparu, neu'n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn
anabl". Mae gan awdurdodau lleol
ddyletswydd hefyd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth. Yn ogystal â hyn, mae'r Ddeddf yn ei gwneud
yn ofynnol i awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol gynnal asesiadau o
anghenion gofal a chymorth eu poblogaethau, gan gynnwys gofalwyr y mae angen
cymorth arnynt.
Y cylch gorchwyl ar
gyfer ymchwiliad y Pwyllgor oedd:
- Asesu effaith Deddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar
ofalwyr o bob oed yng Nghymru, gan gynnwys:
- Asesu angen;
- Darparu cymorth, gan gynnwys gofal
seibiant;
- Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth;
- Gwybodaeth a gesglir gan awdurdodau
lleol a Byrddau Iechyd Lleol am ofalwyr a'u hanghenion.
- Ystyried polisi ehangach Llywodraeth
Cymru ar ofalwyr.
Sesiynau tystiolaeth
Sesiwn
dystiolaeth |
Dyddiad, Agenda
a Chofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
1. Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr
Cymru Claire Morgan, Cyfarwyddwr, Gofalwyr Cymru Simon Hatch, Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Gareth Howells, Cyfarwyddwr, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru |
|||
2. Comisiynydd Pobl Hŷn ac Age Cymru Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Victoria Lloyd, Prif Weithredwr, Age Cymru |
|||
3. Hafal Kay John-Williams, Defnyddiwr Gwasanaeth a Swyddog Cyfranogiad Gofalwyr,
Hafal David Southway, Cynrychiolydd Gofalwyr, Hafal Ceri Matthews, Cynrychiolydd Gofalwyr, Hafal Tracy Elliott, Cynrychiolydd Gofalwyr, Hafal |
|||
4. Mencap Cymru Dr Leanne McCarthy-Cotter, Rheolwr Dylanwadu, Mencap
Cymru Wayne Crocker, Cyfarwyddwr, Mencap Cymru Dot Gallagher, Rhiant-ofalwr/Cadeirydd Mencap Môn Jane Young, Rhiant-ofalwr/Aelod o Mencap Môn |
|||
5. Barnardo’s Cymru, Plant yng Nghymru ac YMCA Sarah Crawley, Cyfarwyddwr, Barnardo’s Cymru Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru Geraint Turner, Cydlynydd Prosiect, YMCA |
|||
6. Cymdeithas Alzheimer's Cymru Huw Owen, Swyddog Polisi, Alzheimer’s Society Cymru Dawn Walters, Adfocad, Alzheimer’s Society Cymru Jayne Goodrick, Gofalu am berson â dementia Ceri Higgins, Gofalu am berson â dementia |
|||
7. Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Damien McCann, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau
Cymdeithasol ym Mlaenau Gwent, Cymdeithas Cyfarwyddwr Gwasanaethau
Cymdeithasol Cymru Kim Sparrey, Rheolwr Datblygu Gwasanaethau Gofalwyr,
Cyngor Sir Fynwy a Chadeirydd Rhwydwaith Gwella a Dysgu Swyddogion
Gofalwyr, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Susan Elsmore, Dirprwy Lefarydd dros Iechyd a Gofal
Cymdeithasol, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Naomi Alleyne, Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol a
Thai, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
|||
8. chynrychiolwyr Cyngor Ieuenctid
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Grace Barton, cynrychiolydd Cyngor Ieuenctid
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Oliver Davies, cynrychiolydd Cyngor Ieuenctid
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Bethan Evans, cynrychiolydd Cyngor Ieuenctid
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru Kate Cubbage, Pennaeth Materion Allanol,
Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru |
|||
9.
Llywodraeth Cymru Julie Morgan AC, Y Dirprwy Weinidog Iechyd a
Gwasanaethau Cymdeithasol Matthew Jenkins, Dirprwy Gyfarwyddwr - Partneriaeth a
Cydweithrediad, Llywodraeth Cymru Ceri Jane Griffiths, Uwch-reolwr Polisi - Pobl Hyn a
Gofalwyr, Llywodraeth Cymru |
Penderfyniadau:
5.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas
Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol
Cymru.
5.2 Cytunodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i rannu
â'r Pwyllgor gopi o ddogfen Gofal Cymdeithasol Cymru sy'n amlinellu'r arfer
gorau ar gyfer asesiad anghenion gofalwr pan fydd ar gael.
5.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu ati gyda chwestiynau
pe na bai cyfle i'w gofyn yn ystod y sesiwn dystiolaeth
Dyddiad cyhoeddi: 20/12/2018
Dyddiad y penderfyniad: 21/11/2018
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/11/2018 - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon - Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol: