Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:54.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4939 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw am:
a) cyflwyno cynllun gwarantu blaendal yng Nghymru i helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf;
b) defnyddio dulliau ariannu amgen yn weithredol fel bondiau ac adeiladu cartrefi newydd ar lefelau rhent gwahanol fel ffordd o fynd i’r afael â’r diffyg presennol o ran tai fforddiadwy;
c) rhaglen cartrefi gwag ledled Cymru i gynyddu nifer yr eiddo gwag sy’n dod yn ôl i gael eu defnyddio fel eiddo preswyl gan roi mwy o bwerau i awdurdodau lleol i ddod ag eiddo gwag yn ôl i gael eu defnyddio; a
d) rhoi rhagor o bwerau i awdurdodau lleol i bennu cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
52 |
56 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
1. Yn nodi:
a) mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rhinweddau cynllun gwarant indemniad morgais er mwyn helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf;
b) mae Llywodraeth Cymru yn ceisio pennu ffynonellau eraill o gyllid er mwyn ariannu’r gwaith o adeiladu cartrefi mwy fforddiadwy;
c) bydd y fenter newydd genedlaethol ynghylch cartrefi gwag "Troi Tai yn Gartrefi" yn cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud y defnydd gorau o’u pwerau presennol i fynd i’r afael â phroblem cartrefi gwag;
d) bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu pwerau disgresiwn awdurdodau lleol i amrywio cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd; ac
e) yr heriau a amlinellir yn y papur diweddar, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, a’r angen am gytundeb barn ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer bodloni anghenion tai pobl.
2. Yn credu y bydd Diwygiadau Lles arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael effaith uniongyrchol ar dai fforddiadwy, yn arbennig i’r rhai ar incwm isel. Tynnwyd sylw at hyn mewn ymchwil diweddar gan y Sefydliad Tai Siartredig.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
11 |
4 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau ei gallu i gyllido cynlluniau tai fforddiadwy yn sylweddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
12 |
4 |
56 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4939 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) mae Llywodraeth Cymru yn ystyried rhinweddau cynllun gwarant indemniad morgais er mwyn helpu prynwyr tro cyntaf i brynu eu cartref cyntaf;
b) mae Llywodraeth Cymru yn ceisio pennu ffynonellau eraill o gyllid er mwyn ariannu’r gwaith o adeiladu cartrefi mwy fforddiadwy;
c) bydd y fenter newydd genedlaethol ynghylch cartrefi gwag "Troi Tai yn Gartrefi" yn cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud y defnydd gorau o’u pwerau presennol i fynd i’r afael â phroblem cartrefi gwag;
d) bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried ehangu pwerau disgresiwn awdurdodau lleol i amrywio cyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer eiddo gwag ac ail gartrefi yn eu hardaloedd; ac
e) yr heriau a amlinellir yn y papur diweddar, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, a’r angen am gytundeb barn ynghylch y blaenoriaethau ar gyfer bodloni anghenion tai pobl.
2. Yn credu y bydd Diwygiadau Lles arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael effaith uniongyrchol ar dai fforddiadwy, yn arbennig i’r rhai ar incwm isel. Tynnwyd sylw at hyn mewn ymchwil diweddar gan y Sefydliad Tai Siartredig.
3. Yn nodi bod y gostyngiad yn y cyllid cyfalaf sydd ar gael i Lywodraeth Cymru yn lleihau ei gallu i gyllido cynlluniau tai fforddiadwy yn sylweddol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
16 |
56 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 15/03/2012
Dyddiad y penderfyniad: 14/03/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad