Manylion y penderfyniad
Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru - Sesiwn dystiolaeth
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae’r Pwyllgor Menter a Busnes wedi cynnal
ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru. Cylch gorchwyl yr ymchwiliad oedd:
- a yw’r system brentisiaethau gyfredol yn rhoi cymorth
effeithiol i economi Cymru?
- a yw’r system brentisiaethau gyfredol yn diwallu
anghenion sgiliau cyflogwyr yng Nghymru ar hyn o bryd, ac a fydd y system
yn eu diwallu yn y dyfodol? Os na, pa elfennau o’r system sydd angen eu
gwella?
- gofio’r flaenoriaeth gynyddol a roddir i brentisiaethau
ar gyfer pobl sydd rhwng 16 a 24 oed, a yw prentisiaethau’n ddewis
atyniadol i bobl ifanc?
- a yw’r systemau ar gyfer sefydlu Safonau a
Fframweithiau Prentisiaeth ac ar gyfer recriwtio prentisiaid yn gweithio’n
effeithiol?
Materion allweddol
Roedd y materion
y bu’r Pwyllgor yn eu hystyried fel rhan o’r cylch gorchwyl hwn yn cynnwys:
- pa mor effeithiol yw ymgysylltiad cyflogwyr â’r
system brentisiaethau yng Nghymru? A yw hyn wedi newid o ganlyniad i’r
amgylchiadau economaidd presennol? A yw cyflogwyr yn gallu dod o hyd i
ddigon o bobl ifanc sydd â’r sgiliau a’r doniau sydd eu hangen arnynt? A
yw’r berthynas rhwng cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant yn un effeithiol?
A yw prentisiaethau’n parhau i gael eu cyfyngu i sectorau penodol?
- a yw mentrau cymdeithasol yn gwneud defnydd
effeithiol o brentisiaethau?
- a yw nifer y prentisiaid sy’n cael eu cyflogi gan
awdurdodau lleol, a’r sector cyhoeddus yn gyffredinol, wedi cynyddu neu
wedi gostwng? A ddylai’r sector cyhoeddus recriwtio mwy o brentisiaid?
- mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo’r defnydd o gymalau
Budd i’r Gymuned mewn contractau sector cyhoeddus, sef cymalau y gellir eu
defnyddio i hyrwyddo’r arfer o gyflogi hyfforddeion a phrentisiaid. A yw
hwn yn ddull effeithiol o gynyddu nifer y prentisiaid?
- beth yw proffil cyffredinol prentis o ran oedran,
rhyw a sector cyflogaeth, er enghraifft? A yw’r proffil hwn yn newid ac,
os ydyw, beth yw’r rhesymau dros hyn? Yn ôl adroddiad gan Ffederasiwn
Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, oed prentis ar gyfartaledd yw 26. Beth yw'r
rhesymau dros hyn? A yw prentisiaethau’n llwyddiannus, yn gyffredinol, o
safbwynt prentisiaid? A yw’r gyfradd o brentisiaethau sy’n cael eu cwblhau
wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf? Yn ymarferol, a roddir
sicrwydd i brentisiaid y byddant yn cael swydd ar ddiwedd eu prentisiaeth?
- a yw Gyrfa Cymru a’r Ganolfan Byd Gwaith yn rhoi
cymorth effeithiol i bobl sydd am ddod o hyd i brentisiaethau? A yw’r
Gwasanaeth Paru Prentisiaethau, sef gwasanaeth newydd sy’n cael ei gynnig
gan Gyrfa Cymru, yn effeithiol?
- pam mae pobl ifanc yn dewis bod yn brentisiaid? Pa
ffactorau sy’n dylanwadu ar eu penderfyniad?
- a yw prentisiaethau yn ddewis atyniadol i bobl o bob
gallu, neu a ydynt yn cael eu hystyried yn ddewis eilradd o gymharu â
dilyn cwrs addysg uwch? A yw agweddau’n newid, ac os felly, beth yw’r
rhesymau dros hyn?
- a yw’r bobl sydd â’r dylanwad mwyaf ar ddewisiadau
pobl ifanc, fel rhieni/gofalwyr, athrawon gyrfaoedd mewn ysgolion, ac
athrawon yn gyffredinol, yn deall y system brentisiaethau yn llawn? A yw’r
system yn rhy gymhleth, ac a oes gormod o ddewis o ran rhaglenni?
- pa mor effeithiol yw polisïau Llywodraeth Cymru ar
brentisiaethau? Sut y mae’r polisïau hyn yn cydblethu a’i strategaethau
ehangach ar yr economi a sgiliau?
- mae addysg a hyfforddiant, gan gynnwys
prentisiaethau, yn faterion datganoledig, ond nid yw cyfreithiau sy’n
ymwneud â chyflogaeth wedi’u datganoli. A oes gan bobl ifanc hawliau a
mynediad digonol o ran cael hyfforddiant fel prentisiaid? Os na, sut y
gellir gwella’r sefyllfa hon?
- a yw’r Cynghorau Sgiliau Sector yn hyrwyddo a
chefnogi prentisiaethau mewn modd effeithiol? Sut y mae capasiti’r
cynghorau yn effeithio ar eu perfformiad yn y maes hwn?
- a yw cyllid Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio’n
effeithiol er mwyn cefnogi prentisiaethau?
- a oes enghreifftiau o arfer da o ran gweithredu
systemau prentisiaeth mewn gwledydd eraill y gallai Cymru ddysgu ohonynt?
Penderfyniadau:
3.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mike McKenna ac Elliott White o Kronospan a Gary Griffiths a Richard Wilkins o Airbus. Holodd yr Aelodau y tystion.
Dyddiad cyhoeddi: 17/05/2012
Dyddiad y penderfyniad: 16/05/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 16/05/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Dogfennau Cefnogol: