Manylion y penderfyniad

Legislative Consent Memorandum on Crime and Courts Bill in relation to amendments to the Environmental Protection Act 1990

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Defnyddir hwn ble y bydd Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad i Ddeddfu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Cyflwynodd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Atodol ar gyfer y Bil Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd (Memorandwm rhif 2) (PDF, 368MB) ar 24 Medi 2014.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.47

 

NDM5088 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau yn y Bil Trosedd a Llysoedd sy’n diwygio adran 33(B) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 sy’n ymwneud â maint y digollediad y caiff llysoedd ynadon ei orchymyn mewn cysylltiad â cholled neu ddifrod a geir mewn perthynas â chostau glanhau gwastraff a ollyngir, a drinnir neu a waredir yn anghyfreithlon, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Tachwedd 2012 yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 29.2(iii).

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 16/01/2013

Dyddiad y penderfyniad: 15/01/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 15/01/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad