Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.36
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5167 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Stats Cymru yn amcangyfrif bod 31,644 o
gartrefi gwag yng Nghymru, gyda 23,287 wedi’u dosbarthu fel anheddau gwag tymor
hir.
2. Yn croesawu bwriad cynllun ‘Troi Tai’n Gartrefi’
Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y £5 miliwn ychwanegol a fuddsoddir yn y cynllun
o ganlyniad i’r fargen ar y gyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn
2012-13.
3. Yn croesawu’r cynnydd o ran lleihau nifer y cartrefi
gwag yng Nghymru 2,000, ond yn credu bod angen gwneud rhagor i ddatblygu
strategaeth tai gwag gydlynol, sy’n cynnwys:
a) creu gwefan Cartrefi Gwag Cymru i rannu cyngor a
chyfarwyddyd ac i godi proffil y cynllun cartrefi gwag;
b) Swyddog Cartrefi Gwag cyfwerth ag amser llawn ym mhob
awdurdod lleol i fynd â'r cynllun rhagddo;
c) symleiddio’r ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau sy’n
ymwneud â Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag a Gorchmynion Prynu Gorfodol;
d) diweddaru canllawiau arfer da cartrefi gwag i
awdurdodau lleol;
e) rhoi rhagor o hyblygrwydd i gynghorau osod cyfraddau’r
dreth gyngor cosbol ar gartrefi gwag tymor hir;
f) hybu rhannu enghreifftiau o’r arfer gorau a hwyluso
gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol; ac
g) edrych ar gynllun cymhellion i gynghorau lleol ar
gyfer pob cartref sector preifat tymor hir sy’n cael ei ddefnyddio unwaith eto,
yn debyg i gynllun ‘New Homes Bonus Scheme’ Llywodraeth y DU.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
17 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 21/02/2013
Dyddiad y penderfyniad: 20/02/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad