Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.25

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM5188 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn mynegi pryder nad yw cleifion yng Nghymru yn gallu cael gafael ar y triniaethau a'r meddyginiaethau mwyaf newydd a mwyaf arloesol sydd ar gael i gleifion eraill ledled y DU;

2. Yn croesawu’r ffaith bod Cronfa Technolegau Iechyd Cymru wedi cael ei chreu, ond yn gresynu wrth y diffyg buddsoddiad mewn technolegau newydd, arloesol o’r dyraniad gwerth £5 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-2013;

3. Yn nodi bod y diwydiant fferyllol wedi buddsoddi £4.4 biliwn mewn gwaith ymchwil a datblygu yn y DU yn 2009, sydd yn fwy nag unrhyw sector diwydiant arall, ac yn credu bod GIG Cymru angen amgylchedd sy'n barod i dderbyn arloesedd er mwyn cystadlu'n effeithiol am dreialon clinigol ar lefel fyd-eang;

4. Yn credu y dylid ystyried gwariant ar feddyginiaethau modern yn fuddsoddiad yn hytrach nag yn gost. Felly, mae'n gresynu mai dim ond 0.5% o gyfanswm gwariant y GIG yng Nghymru yn 2011 a wariwyd ar feddyginiaethau newydd a ddefnyddiwyd mewn gofal sylfaenol; a

5. Yn nodi y rhagwelir y bydd Cymru yn sicrhau arbedion o ryw £186 miliwn rhwng 2011 a 2015 oherwydd Colli Hawliau Unig Gynhyrchydd (LOE) ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi rhywfaint o’r arian hwn yn y Gronfa Technolegau Iechyd, i gefnogi'r ymgysylltiad â Grwp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) fel y gall mwy o gleifion yng Nghymru fanteisio ar y triniaethau a’r meddyginiaethau diweddaraf.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 1, ar ôlyng Nghymru’, rhoi ‘, yn enwedig rhai gyda chlefydau prin,’.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

36

50

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôlgresynua  rhoi yn ei le:

a) wrth y diffyg buddsoddiad mewn technolegau newydd, arloesol o’r dyraniad gwerth £5 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-2013;

b) nad yw’r Gronfa yn mynd i’r afael â hygyrchedd gwael triniaethau canser modern i gleifion yng Nghymru wrth gymharu â rhannau eraill o’r DU.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod Cronfa Technolegau Iechyd Cymru yn ehangu mynediad at driniaethau canser modern ar gyfer cleifion yng Nghymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

34

50

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod modd peryglu mynediad cleifion at feddyginiaethau a thriniaethau arloesol yn sgîl toriadau termau real Llywodraeth Cymru i gyllideb GIG Cymru nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

39

50

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gan na dderbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio gan y Cynulliad, a chan na dderbyniwyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

Dyddiad cyhoeddi: 14/03/2013

Dyddiad y penderfyniad: 13/03/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad