Cyfarfodydd

Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2015-16

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/11/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid a chymeradwyo’r gyllideb

paper 2

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Comisiynwyr adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gyllideb ddrafft y Comisiwn a chytunwyd ar ymatebion i’r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor.

Rhoddodd y Comisiwn sylw i’r argymhellion a wnaed i gyhoeddi dadansoddiad o’r cyllid a amcangyfrifir cyn yr etholiad, ac i gyhoeddi Dangosyddion Perfformiad Corfforaethol drwy ychwanegu gwybodaeth at ddogfen y gyllideb.

Roedd y Comisiynwyr yn derbyn y pwynt a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid, ynglŷn ag ystyried opsiynau ar gyfer defnyddio’r cymhorthdal ​​teithio ar gyfer teithio ar y trên yn ogystal â theithio ar y bws, o ran ysgolion ac ymgysylltu â phobl ifanc. Gofynnwyd i swyddogion barhau i sicrhau bod y cymhorthdal ​​ar gael ar draws pob ardal ddaearyddol o Gymru. Ychwanegwyd ymrwymiad ganddynt i gynnal adolygiad llawn cyn diwedd y flwyddyn. Bydd yr adolygiad hwn yn cynnwys pob ymgysylltu â phobl ifanc, nid ymgysylltu drwy ysgolion yn unig.

Croesawodd y Comisiynwyr argymhelliad y Pwyllgor y dylid mynd ar drywydd cyfleoedd i brynu rhydd-ddaliad Tŷ Hywel, ac maent wedi ychwanegu pwynt yn hyn o beth at ddogfen y gyllideb.

Cytunodd y Comisiwn i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gynllunio ar gyfer y Pumed Cynulliad, yn arbennig y gwaith cynllunio ar gyfer ymdrin â phwerau ariannol newydd, a gofynnodd i’r Prif Weithredwr ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid unwaith y bydd y cynlluniau wedi’u datblygu ymhellach.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr y Gyllideb derfynol ar gyfer 2015-16, a chytunwyd i’w gosod ar 12 Tachwedd 2014, gyda’r bwriad bod dadl yn cael ei chynnal yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Tachwedd 2014. Byddai hyn yn sicrhau bod modd cynnwys ffigyrau cyllideb y Comisiwn yng nghynnig Cyllideb Flynyddol Llywodraeth Cymru, a gynlluniwyd ar gyfer mis Rhagfyr, yn unol â’r amserlen.


Cyfarfod: 08/10/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Trafod yr adroddiad drafft ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16

FIN(4)-17-14 Papur 3

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Peter Black AM absented himself for this item due to his role as a member of the Assembly Commission.

 

5.2 The Committee considered and agreed the draft report.


Cyfarfod: 02/10/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16

FIN(4)-16-14 Papur 2
FIN(4)-16-14 Papur 3

Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil

 

Y Fonesig Rosemary Butler AC -  Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn

Claire Clancy - Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nicola Callow – Cyfarwyddwr Cyllid

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon ac eitem 8 gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.

 

4.2 Bu’r Aelodau yn craffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16 gyda'r Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid.

 

4.3 Cytunodd y Llywydd i godi'r mater ynghylch tywyswyr yn casglu nodiadau Aelodau o'r Siambr i helpu gyda Chofnod y Trafodion yn y cyfarfod nesaf. Hefyd, ymrwymodd i ymchwilio i'r posibiliadau o ran opsiynau teithio amgen ar gyfer ymweliadau addysgol gan ysgolion.

 

4.4 Cytunodd Claire Clancy i edrych ar y materion hawlfraint sy'n ymwneud â'r adroddiad Ymddiriedolaeth Garbon a sicrhau ei fod ar gael i'r Aelodau os yn bosibl ac i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch pwy sy'n berchen Tŷ Hywel.

 


Cyfarfod: 02/10/2014 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2015-16: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a nodi y bydd adroddiad drafft yn cael ei baratoi i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 8 Hydref 2014.

 


Cyfarfod: 17/09/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb Ddrafft 2015-16

papur 2

Cofnodion:

Roedd dogfen y gyllideb ddrafft, a ystyriwyd yn flaenorol yng nghyfarfod y Comisiwn ym mis Gorffennaf, wedi cael ei diweddaru.  Fel y rhagwelwyd, mae rhagor o wybodaeth wedi’i chynnwys am y cynnydd yng nghost Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil ar gyfer staff y Comisiwn, yn ôl y disgwyl, ac mae gwybodaeth am gyllid dangosol ar gyfer cyfnodau yn y dyfodol wedi’i chynnwys hefyd. Cadarnhaodd Llywodraeth y DU ffigwr is na’r disgwyl ar gyfer cyfraniadau’r cyflogwr i Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, sy’n dileu’r angen am gynnwys eitem eithriadol.

Ystyriodd y Comisiynwyr fod y gyllideb ddrafft yn unol ag anghenion y Comisiwn a disgwyliadau’r Pwyllgor Cyllid yn llwyr. Teimlodd y Comisiynwyr y bydd y Gyllideb yn darparu llwyfan cadarn ar gyfer y Pumed Cynulliad i weithio arno, ac mae’n adlewyrchu’r nodau a’r targedau strategol y cytunwyd arnynt eisoes. Cytunodd y Comisiynwyr ar y gyllideb ddrafft ar gyfer 2015-16, a rhoddwyd cymeradwyaeth i osod y ddogfen ar 25 Medi 2014.

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn craffu ar y gyllideb ddrafft ar 2 Hydref.


Cyfarfod: 15/09/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)

Cyllideb 2015-16 - Papur 2

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Callow y drafft diweddaraf o gyllideb Comisiwn y Cynulliad i'r Bwrdd, gan dynnu sylw at ddatblygiadau newydd ers yr adolygiad diwethaf cyn toriad yr haf. Roedd y datblygiadau hyn yn cynnwys safbwynt newydd ar y cynllun pensiwn ac ar gyllid dangosol y tu hwnt i 2015-16, a chafwyd y wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa fuddsoddi ar gyfer 2015-16 a'r blynyddoedd wedyn.

Gofynnir i'r Comisiynwyr gytuno ar y gyllideb yn eu cyfarfod ar 17 Medi a byddai'n cael ei gosod gerbron y Cynulliad ar 25 Medi.  Disgwylir i'r Pwyllgor Cyllid graffu ar y gyllideb ar 2 Hydref.

Cytunodd y Bwrdd Rheoli fod y fformat a'r dyluniad wedi gwella a chynigiwyd ychydig o fân newidiadau a sylwadau am y cyflwyniad.  Roedd y Bwrdd am ganmol Nicola a'r staff cyllid drwy'r sefydliad am eu gwaith ar y gyllideb.

Camau i’w cymryd:

·      Nicola Callow i holi'r Tîm Cydraddoldeb ynghylch hygyrchedd y ffurfdeip.

·      Penaethiaid gwasanaeth i anfon unrhyw sylwadau ychwanegol at Nicola cyn diwedd y dydd.

 


Cyfarfod: 07/07/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Cyllideb ddrafft 2015-16

papur 2

Cofnodion:

Yn unol â thrafodaethau blaenorol, roedd y Comisiynwyr yn parhau i ystyried y byddai cyllideb  2015-16 yn cael ei rheoli'n unol â newidiadau i floc Cymru, ac eithrio'r eitemau hynny sydd y tu allan i reolaeth y Comisiwn. Byddai gwaith yn cael ei gwblhau dros yr haf i gynllunio ar gyfer effaith y cynnydd disgwyliedig yng nghostau pensiynau PCSPS a byddai'r Comisiwn yn cael cyngor terfynol ynglŷn â'r gyllideb ddrafft derfynol ym mis Medi. Nododd y Comisiynwyr nad oedd rhagor o wybodaeth ar gael gan Swyddfa'r Cabinet.


Cyfarfod: 08/05/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Strategaeth Cyllideb 2015-16

papur 2, rhannau a, b

Cofnodion:

Cyllideb 2015-16 fydd y gyntaf yn dilyn cyfnod buddsoddi tair blynedd y Comisiwn. Mae’r Comisiynwyr eisoes wedi ymrwymo i reoli’r gyllideb yn unol â’r newidiadau yng nghyllideb bloc Cymru.

Cadarnhaodd y Comisiynwyr y byddai’r eitemau a ganlyn yn cael eu trin fel eitemau eithriadol a oedd y tu allan i reolaeth y Comisiwn:

-       cynnydd yng nghostau’r cyflogwr yn dilyn y broses o brisio Prif Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil, fel y trafodwyd gan y Comisiwn ym mis Chwefror;

-       arian ychwanegol yng ngoleuni penderfyniadau a wnaed gan y Bwrdd Taliadau; a

-       gwariant yn ymwneud ag etholiadau.

Byddai’r Bwrdd Buddsoddi yn adolygu’r eitemau eithriadol, gan gynnwys sicrhau bod gwariant yn ymwneud ag etholiadau, a chostau, yn cael eu cynllunio a’u rheoli’n effeithiol. Byddai rhagor o wybodaeth yn cael ei chynnwys am y wasgfa ar y gyllideb, am flaenoriaethau strategol ac am arbedion effeithlonrwydd a gyflawnwyd, yn benodol, drwy fuddsoddi sylweddol, fel yn achos y prosiect TGCh. Cytunwyd y byddai gwybodaeth am ffrydiau incwm hefyd yn cael ei chynnwys yn nogfen y gyllideb.

Diolchwyd i Angela Burns AC a Nicola Callow am eu gwaith hyd yma ar strategaeth y gyllideb.

Byddai’r Comisiynwyr yn trafod y gyllideb ddrafft eto ym mis Gorffennaf, cyn iddi gael ei gosod gerbron y Cynulliad i’w thrafod ym mis Medi 2014.  

 


Cyfarfod: 13/02/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)

Strategaeth Cyllideb y Comisiwn 2015-16

papur 2

Cofnodion:

Roedd strategaeth cyllideb y Comisiwn yn ystod y Pedwerydd Cynulliad wedi caniatáu i’r sefydliad fuddsoddi i sicrhau cymorth seneddol o’r radd flaenaf o ran cyfleusterau, gwasanaethau, arbenigedd a’r rhyngwyneb cyhoeddus, gan sicrhau gwerth am arian ac effeithlonrwydd hefyd. 2015-16 fydd blwyddyn olaf y Pedwerydd Cynulliad a daw  gwaith y Comisiwn presennol yn y meysydd hyn i ben.

Cytunwyd y byddai’r dull o weithredu ar gyfer cyllideb 2015-16 yn dilyn hwnnw a fabwysiadwyd ers dechrau’r Pedwerydd Cynulliad. Byddai’n canolbwyntio ar gael gwared ar ddulliau aneffeithiol o weithio a sicrhau gwerth am arian er mwyn medru parhau i arloesi a chyflawni’n hymrwymiad parhaus i safon y gwasanaethau i’r Aelodau a’r cyhoedd. Dylid hefyd ystyried cynlluniau a senarios mwy hirdymor i hwyluso’r broses o drosglwyddo’r awenau i’r Comisiwn nesaf yn 2016.

Cymeradwyodd y Comisiynwyr Strategaeth Cyllideb 2015-16, gan gynnwys yr argymhellion yn adran 2. Byddai swyddogion yn datblygu’r gyllideb ddrafft, yn unol â’r dulliau o weithredu y cytunwyd arnynt, yn barod i’w trafod ym mis Mai.