Cyfarfodydd

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 11/02/2016 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd: briffio ffeithiol ar gynllun cyflenwi Llywodraeth Cymru ‘Gweithio gyda’n gilydd i leihau niwed’ - 2016-2018

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Camddefnyddio Sylweddau – Llywodraeth Cymru

Cofnodion:

3.1 Darparodd swyddogion sesiwn friffio ar gynllun cyflenwi Llywodraeth Cymru ‘Gweithio gyda’n gilydd i leihau niwed’ - 2016-2018 i’r Aelodau.

 


Cyfarfod: 11/02/2016 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd: briffio ffeithiol ar y Bil Sylweddau Seicoweithredol a datblygiadau perthnasol yr UE

Chloe Dunnett, Uned Cyffuriau ac Alcohol – Y Swyddfa Gartref

Angela Scrutton, Uned Cyffuriau ac Alcohol – Y Swyddfa Gartref

Joe Shapiro, Uned Cyffuriau ac Alcohol – Y Swyddfa Gartref

Cofnodion:

2.1 Rhoddodd swyddogion sesiwn friffio ar y Ddeddf Sylweddau Seicoweithredol a datblygiadau perthnasol yr UE i’r Aelodau.

 


Cyfarfod: 13/05/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar yr ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd

NDM5756 David Rees (Aberafan)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015.

 

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Mai 2015.

 

Dogfennau Ategol

 

Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.35

 

NDM5756 David Rees (Aberafan)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2015.

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

 


Cyfarfod: 29/04/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd: gohebiaeth gan y Swyddfa Gartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth, a nododd y byddai adroddiad y Pwyllgor ar ei ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd yn cael ei drafod gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 13 Mai 2015.

 


Cyfarfod: 26/03/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Adroddiad ar sylweddau seicoweithredol newydd

CYPE(4)-10-15 – Papur i'w nodi 4

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 25/02/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): trafod lansio'r adroddiad

Cofnodion:

8.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod ei ddull o lansio ei adroddiad ar sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").

 


Cyfarfod: 12/02/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10)

10 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): ystyried yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

10.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr adroddiad drafft, ar gyfer ei ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon") a chytunodd arno yn amodol ar fân newidiadau.

10.2 Ystyriodd y Pwyllgor ei ddull o lansio’r adroddiad.


Cyfarfod: 15/01/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.

 


Cyfarfod: 15/01/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law.

Cofnodion:

9.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth.

 


Cyfarfod: 15/01/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): sesiwn dystiolaeth 8

Dan Greaves, Pennaeth yr Uned Alcohol a Chyffuriau, y Swyddfa Gartref

Angela Scrutton, Pennaeth Deddfwriaeth Cyffuriau, y Swyddfa Gartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.

6.2 Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth am y broses a ddefnyddiodd cydweithwyr yn y Swyddfa Gartref i ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch deddfwriaeth Ewropeaidd arfaethedig ym maes sylweddau seicoweithredol newydd.

 


Cyfarfod: 10/12/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): ystyried y materion allweddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y materion allweddol sydd wedi codi yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon") a chytunodd arnynt.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ymestyn yr ymchwiliad er mwyn cymryd tystiolaeth lafar gan swyddogion y Swyddfa Gartref yn ei gyfarfod ar 15 Ionawr 2015.

 


Cyfarfod: 03/12/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon")

CYPE(4)-29-14 – Papur i'w nodi 5

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd (“cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): ystyried y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.


Cyfarfod: 26/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): sesiwn dystiolaeth 7

Mark Drakeford AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

 

Tracey Breheny, Dirprwy Gyfarwyddwr Camddefnyddio Sylweddau, Is-adran Busnes y Llywodraeth a Busnes Corfforaethol

Dr Sarah Watkins, Is-adran Grwpiau Iechyd Meddwl ac Agored i Niwed/ Uwch Swyddog Meddygol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

4.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn i’r Pwyllgor yn nodi’r amcangyfrif o gostau i GIG Cymru o’r carchar arfaethedig yng Ngogledd Cymru.

 

 

 


Cyfarfod: 12/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad.

 


Cyfarfod: 12/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 6

Paul Roberts, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan yr Aelodau.

 


Cyfarfod: 12/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 5

Ditectif Brif Arolygydd Gary Phillips, TARIAN, Uned Troseddau Cyfundrefnol Rhanbarthol De Cymru

Ditectif Arolygydd Richie Jones, Ffederasiwn yr Heddlu ar gyfer Cymru a Lloegr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

2.2 Cytunodd y tystion i ddarparu gwybodaeth ychwanegol i’r Pwyllgor ynghylch:

·         camau sy'n cael eu cymryd gan heddluoedd ledled Cymru i atal y defnydd o sylweddau seicoweithredol newydd;

·         camau sy'n cael eu cymryd gan y gwasanaethau cyhoeddus perthnasol i gydweithio a chydgysylltu gwasanaethau cymorth i unigolion sydd am roi'r gorau i gymryd sylweddau seicoweithredol newydd; a

·         braslun o unrhyw fylchau o ran y gwasanaethau cymorth sylweddau seicoweithredol a ddarperir gan Bartneriaethau Diogelwch Cymunedol.

 


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Canlyniadau Arolwg y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.3a Nododd y Pwyllgor ganlyniadau arolwg y Pwyllgor mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").

 


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Nodyn o'r ymweliadau a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1a Nododd y Pwyllgor y nodyn o'r ymweliadau a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014 mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").

 


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Nodyn o'r digwyddiadau grŵp ffocws a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.2a Nododd y Pwyllgor y nodyn o'r grwpiau ffocws a gynhaliwyd ar 2 Hydref 2014 mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").

 


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Ymatebion i'r ymgynghoriad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.4a Nododd y Pwyllgor yr ymatebion i'r ymgynghoriad mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").

 


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 9)

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gyfer yr ymchwiliad.

 


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 4

Kathryn Peters, Rheolwr Diogelwch Cymunedol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Y Cynghorydd Mark Child, deilydd portffolio Safonau Masnach, Cyngor Abertawe

Y Cynghorydd Andrea Lewis, Cyngor Abertawe

Angela Cronin, Gweithiwr Datblygu Iechyd a Lles, Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr

Richard Webb, Cymdeithas Prif Swyddogion Safonau Masnach, Cyngor Sir Rhydychen

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Mark Child. Roedd Jackie Garland yn dirprwyo.

6.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

6.3 Cytunodd Richard Webb i ddarparu rhagor o wybodaeth am y pecyn cymorth sy'n cael ei ddatblygu gan swyddogion safonau masnach ar sut i fynd i'r afael â'r mater o sylweddau seicoweithredol newydd. Cytunodd hefyd i ddarparu barn ysgrifenedig ynghylch effaith Deddf Troseddau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a Phlismona 2014 ar ddull gweithredu swyddogion safonau masnach tuag at sylweddau seicoweithredol newydd.

 


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 3

Joanne Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cynllunio, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Jamie Harris, Rheolwr Gwasanaethau i Deuluoedd, Plant a Phobl Ifanc, SANDS Cymru (sef Prosiect Cyffuriau Abertawe gynt)*

Nicola John, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf*

Julia Lewis, Seiciatrydd Ymgynghorol ar Gaethiwed ac Arweinydd Clinigol ar gyfer Caethiwed, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Jonathan Whelan, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru*

 

*Nid oes papurau ysgrifenedig wedi’u cyflwyno.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 2

Yr Athro Philip Routledge OBE, Cadeirydd Bwrdd y Rhaglen, Prosiect Cyffuriau Newydd ac Adnabod Sylweddau Newydd Cymru (WEDINOS)

Josephine Smith, Arweinydd y Rhaglen, WEDINOS

Dr Quentin Sandifer, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

4.2 Cytunodd Dr Quentin Sandifer i roi gwybodaeth ychwanegol i'r Pwyllgor am y ffordd y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu â chymunedau yng Nghymru ynghylch sylweddau seicoweithredol newydd.

4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at TICTAC i ofyn am eglurhad ynghylch a ydynt yn profi'r sylweddau a dderbynnir yn ogystal â darparu cofnod gweledol o beth yw'r cyffuriau.

 


Cyfarfod: 06/11/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Sesiwn dystiolaeth 1

Jeremy Sare, Sefydliad Angelus

Maryon Stewart, Sefydliad Angelus

Harry Shapiro, DrugScope  

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Maryon Stewart.

3.2 Ymatebodd y tystion i gwestiynau gan Aelodau.

 


Cyfarfod: 24/09/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): Cyflwyniad gan Heddlu Gwent

Ditectif Brif Arolygydd Roger Fortey

Arolygydd Catherine Hawke

Rhingyll Jennie Tinsley

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Rhoddodd y swyddogion gyflwyniad ar sylweddau seicoweithredol newydd i Aelodau.

 


Cyfarfod: 18/09/2014 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 11)

Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): trafod y deithlen ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

11.1 Cytunodd y Pwyllgor ar deithlen ar gyfer gweithgareddau ymgysylltu mewn perthynas â'r ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon").