Cyfarfodydd
Corporate Induction
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 14/07/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Cynefino Corfforaethol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Croesawodd y Bwrdd Hayley Rees (Swyddog Hyfforddi AD)
i gyflwyno cynigion ar gyfer y Rhaglen Gynefino Corfforaethol newydd, yn dilyn
y gwelliannau y cytunwyd arnynt, a oedd wedi’u datblygu a’u rhoi ar waith yn y
pedair sesiwn dreialu gychwynnol.
Roedd y cwrs cynefino wedi’i leihau o ddau ddiwrnod i
un diwrnod, gan fod rhywfaint o’r cynnwys wedi’i ddisodli gan DVD cyfeirio, a
chan gyflwyniad gan aelod o’r Bwrdd Rheoli. Rydym yn parhau i dderbyn adborth a
gwneir addasiadau a gwelliannau yn unol â’r adborth bob tro. Y bwriad oedd y
byddai’n cysylltu â’r rhaglen Datblygu Rheolwyr.
Cytunodd y Bwrdd ar yr holl argymhellion, a gofynnodd
i’r Adran Adnoddau Dynol ystyried sut y gallem ysbrydoli pobl ymhellach am bwysigrwydd
y sefydliad a dyfodol Cymru.
Cyfarfod: 14/07/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Sesiwn gynefino gorfforaethol
Papur 2
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Cyflwynodd Mike Snook a Joanne Gemma gynigion
newydd ar gyfer cynefino ar gyfer yr holl staff newydd, i wella’r profiad
cynefino corfforaethol, a’i wneud yn fwy amserol. Byddai fformat undydd byrrach
i’r sesiynau newydd, gyda ffocws
strategol, a byddai aelod o’r Bwrdd Rheoli yn agor neu’n cau’r sesiynau.
Bwriedir darparu deunyddiau a chyflwyniadau, a byddai DVDs byr, llawn
gwybodaeth yn cael eu cynhyrchu i roi trosolwg o waith meysydd gwasanaeth a
Chomisiynwyr gwahanol.
Croesawodd y Bwrdd y cynnig, a chytunodd ar yr
argymhelliad i weithredu’r sesiynau cynefino corfforaethol diwygiedig yn nhymor
yr Hydref, gydag adolygiad ar ôl chwe mis i nodi unrhyw welliannau pellach.
Camau i’w cymryd:
·
Penaethiaid Gwasanaeth i sicrhau bod rheolwyr llinell yn
cynnwys cyfarfodydd gyda thimau eraill drwy’r meysydd gwasanaeth yn y rhaglenni
cynefino personol ar gyfer staff newydd; yr Adran Adnoddau Dynol i weithio gyda
rheolwyr llinell i deilwra cyfleoedd cynefino pellach;
·
Adnoddau Dynol i sicrhau bod cyd-gysylltu â’r tîm
Datblygiad Proffesiynol Parhaus er mwyn defnyddio adnoddau’n effeithiol;
·
AD i gysylltu â thimau er mwyn cysylltu trefniadau
cynefino corfforaethol a threfniadau adrannol, a sicrhau bod dull gweithredu
integredig, cyfannol o ran cynefino ar draws y sefydliad.