Cyfarfodydd

Corporate Induction

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/07/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)

Cynefino Corfforaethol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Croesawodd y Bwrdd Hayley Rees (Swyddog Hyfforddi AD) i gyflwyno cynigion ar gyfer y Rhaglen Gynefino Corfforaethol newydd, yn dilyn y gwelliannau y cytunwyd arnynt, a oedd wedi’u datblygu a’u rhoi ar waith yn y pedair sesiwn dreialu gychwynnol.

Roedd y cwrs cynefino wedi’i leihau o ddau ddiwrnod i un diwrnod, gan fod rhywfaint o’r cynnwys wedi’i ddisodli gan DVD cyfeirio, a chan gyflwyniad gan aelod o’r Bwrdd Rheoli. Rydym yn parhau i dderbyn adborth a gwneir addasiadau a gwelliannau yn unol â’r adborth bob tro. Y bwriad oedd y byddai’n cysylltu â’r rhaglen Datblygu Rheolwyr.

Cytunodd y Bwrdd ar yr holl argymhellion, a gofynnodd i’r Adran Adnoddau Dynol ystyried sut y gallem ysbrydoli pobl ymhellach am bwysigrwydd y sefydliad a dyfodol Cymru.

 

 


Cyfarfod: 14/07/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)

Sesiwn gynefino gorfforaethol

Papur 2

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5
  • Cyfyngedig 6

Cofnodion:

Cyflwynodd Mike Snook a Joanne Gemma gynigion newydd ar gyfer cynefino ar gyfer yr holl staff newydd, i wella’r profiad cynefino corfforaethol, a’i wneud yn fwy amserol. Byddai fformat undydd byrrach i’r sesiynau newydd,  gyda ffocws strategol, a byddai aelod o’r Bwrdd Rheoli yn agor neu’n cau’r sesiynau. Bwriedir darparu deunyddiau a chyflwyniadau, a byddai DVDs byr, llawn gwybodaeth yn cael eu cynhyrchu i roi trosolwg o waith meysydd gwasanaeth a Chomisiynwyr gwahanol.

 

Croesawodd y Bwrdd y cynnig, a chytunodd ar yr argymhelliad i weithredu’r sesiynau cynefino corfforaethol diwygiedig yn nhymor yr Hydref, gydag adolygiad ar ôl chwe mis i nodi unrhyw welliannau pellach.

 

Camau i’w cymryd:

 

·                Penaethiaid Gwasanaeth i sicrhau bod rheolwyr llinell yn cynnwys cyfarfodydd gyda thimau eraill drwy’r meysydd gwasanaeth yn y rhaglenni cynefino personol ar gyfer staff newydd; yr Adran Adnoddau Dynol i weithio gyda rheolwyr llinell i deilwra cyfleoedd cynefino pellach;

·                Adnoddau Dynol i sicrhau bod cyd-gysylltu â’r tîm Datblygiad Proffesiynol Parhaus er mwyn defnyddio adnoddau’n effeithiol;

·                AD i gysylltu â thimau er mwyn cysylltu trefniadau cynefino corfforaethol a threfniadau adrannol, a sicrhau bod dull gweithredu integredig, cyfannol o ran cynefino ar draws y sefydliad.