Cyfarfodydd

Ystyried gohebiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Athro Marcus Longley

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 18/07/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Ystyried gohebiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Athro Marcus Longley

HSC(4)-23-12 papur 1a : Gwybodaeth a gyhoeddwyd ar log datgelu Llywodraeth Cymru

 

HSC(4)-23-12 papur 1b : Y Trefniant Gorau ar gyfer Gwasanaethau Ysbytai Cymru: Adolygiad o’r Dystiolaeth (ysgrifennwyd gan yr Athro Longley)

 

HSC(4)-23-12 papur 1c : Gwybodaeth gan Gonffederasiwn GIG Cymru

 

08:30 – 09:15 – sesiwn 1

Yr Athro Marcus Longley

 

09:15 – 10:00 – sesiwn 2

Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

David Sissling, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru a Prif Weithredwr, GIG Cymru

Dr Chris Jones, Cyfarwyddwr Meddygol, GIG Cymru a Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Cymru, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Bu’r Pwyllgor yn holi’r Athro Marcus Longley ynghylch yr ohebiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru ac yntau.

 

2.2 Bu’r Pwyllgor yn holi Lesley Griffiths AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, David Sissling a Dr Chris Jones ynghylch yr ohebiaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Athro Marcus Longley.

 

2.3 Oherwydd problemau technegol, gohiriwyd y Pwyllgor rhwng 9.32 a 10.05.

 


Cyfarfod: 12/07/2012 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

Ystyried cynnig a hysbyswyd i'r Pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 17.44

 

Elin Jones AC (Ceredigion)

 

Cynnig bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:

 

Yn neilltuo amser yn ystod ei gyfarfod nesaf, ar 18 Gorffennaf 2012, i graffu ar waith y Gweinidog Iechyd, ei swyddogion ac, os ar gael, yr Athro Marcus Longley, a hynny o ran yr ohebiaeth rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a’r Athro Longley a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

 

Cofnodion:

2.1 Ni chafwyd gwrthwynebiadau i’r cynnig, felly cytunwyd ar y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 17.34(i).