Cyfarfodydd
Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 1.)
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Bydd y Llywydd yn galw
ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl
Cwestiwn 2.
Dogfennau ategol:
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
13:00
Gofynnwyd yr 8
cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r
Gweinidog a Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar ôl cwestiwn 2.
Cyfarfod: 18/11/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Ymateb gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol.
E&S(4)-32-15 Papur 7
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 14/10/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Sesiwn graffu gyffredinol: Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Carl Sargeant AM, Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio
Matthew Quinn, Cyfarwyddwr Datblygu Cynaliadwy
Andrew Slade, Cyfarwyddwr, Amaethyddiaeth, Bwyd a Môr
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/1)
- Papur 1, Eitem 2 PDF 91 KB Gweld fel HTML (2/2) 54 KB
Cofnodion:
2.1 Ymatebodd y Gweinidog a swyddogion i gwestiynau gan
aelodau’r Pwyllgor.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r
canlynol:
- Caniatâd ynni: Nodyn ar y rhesymeg ar gyfer y terfyn 350MW ar
gyfer datganoli pwerau caniatâd ynni yn y dyfodol.
- Cynllunio morol: Nodyn ar gyfarwyddeb cynllunio morol newydd y
Comisiwn Ewropeaidd.
- Ansawdd dŵr: Y meini prawf ar gyfer asesu a oes gan gorff o
ddŵr 'statws ecolegol da'.
- Ansawdd dŵr: Darparu cymhariaeth o'r ffigur o 42 y cant ar
gyfer cyrff o ddŵr yng Nghymru sy'n sicrhau statws ecolegol da gyda
chanran y cyrff o ddŵr mewn gwledydd eraill yn y DU a rhannau eraill
o'r UE sy'n sicrhau statws ecolegol da.
- Adolygiad Arfordirol Cyfoeth Naturiol Cymru: Manylion am y cynnydd yn gweithredu'r saith
argymhelliad na chânt eu cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol hon, gan
gynnwys amserlen ar gyfer cwblhau'r argymhellion hyn.
Cyfarfod: 30/04/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
5 Craffu ariannol: Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
E&S(4)-12-15
Papur 9
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
Cyfarfod: 26/03/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
E&S(4)-10-15 Papur 2
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth.
Cyfarfod: 04/03/2015 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Carl Sargeant AC,
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Andrew Slade, Cyfarwyddwr Amaeth, Bwyd a'r Môr
Matthew Quinn, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Datblygu
Cynaliadwy
Neil Hemington, Pennaeth Cynllunio
Tony Clark, Pennaeth Cyllid, Adnoddau Naturiol
E&S(4)-07-15 Papur 1
E&S(4)-07-15 Papur 1 Atodiad
Dogfennau ategol:
- Papur briffio'r Gwasanaeth Ymchwil: Craffu Cyffredinol
- Papur Briffio'r Gwasanaeth Ymchwil: Craffu ariannol
- Y Gwasanaeth Ymchwil: papur briffio ychwanegol ar ynni (Saesneg yn unig)
- Papur 1, Eitem 2 PDF 105 KB Gweld fel HTML (2/4) 55 KB
- Papur 1 Atodiad, Eitem 2 PDF 279 KB Gweld fel HTML (2/5) 136 KB
Cofnodion:
Atebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan
aelodau’r Pwyllgor.
Cytunodd y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i:
·
Ysgrifennu at y Pwyllgor mewn perthynas â’r prisiau a delir gan Sipsiwn
a Theithwyr am ynni a dwr, gan gynnwys sut y gallen nhw fanteisio ar raglenni
Arbed a Nyth;
·
Egluro ystyr ‘hunan-adrodd’ mewn perthynas ag Arbed a Nyth; a
·
Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ynglyn â chyflwyno
deddfwriaeth i gyfyngu maint cychod pysgota yn yr ardal 0-6 milltir môr.
Cyfarfod: 23/10/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Rhagor o wybodaeth gan y Gweinidog yn dilyn cyfarfod 17 Medi
E&S(4)-25-14 papur 6
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
7.5 Nododd
y Pwyllgor y papur.
Cyfarfod: 17/09/2014 - Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Craffu ar waith y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
E&S(4)-20-14
papur 1
Carl Sargeant AC, y Gweinidog Cyfoeth Naturiol
Matthew Quinn, y Cyfarwyddwr Cyfoeth Naturiol
Prys Davies, Dirprwy Gyfarwyddwr: Yr Is-adran Ynni, Dŵr
a Llifogydd
Dogfennau ategol:
- Papur 1, Eitem 2 PDF 156 KB Gweld fel HTML (2/1) 56 KB
- Papur briffio y Gwasanaeth Ymchwil
Cofnodion:
2.1
Ymatebodd y Gweinidog a’i swyddogion gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
2.2
Cytunodd y Gweinidog i:
·
Ysgrifennu
at y Pwyllgor i ddarparu nodyn cynhwysfawr ar yr agenda polisi bioamrywiaeth.
·
Ystyried
cyhoeddi adroddiad yr archwiliad a wnaed i gamau gweithredu bioamrywiaeth a
gynhaliwyd gan adrannau’r Llywodraeth.
·
Ystyried
darparu dangosyddion perfformiad allweddol/data gwaelodlin a ddefnyddir i fesur
canlyniadau’r Cynllun Adfer Natur.
·
Ysgrifennu
at y Pwyllgor gyda gwybodaeth am y pwyntiau a nodwyd gan aelodau’r Pwyllgor
ynghylch nwy siâl / ffracio.
·
Ystyried
gwneud datganiad wedi’i ddiweddaru ar safbwynt y Llywodraeth ar nwy siâl /
ffracio.
·
Darparu’r
siart llif i’r Pwyllgor a ddefnyddir gan y Llywodraeth yn ymwneud â’r prosesau
cynllunio mewn cysylltiad â ffracio.
·
Ysgrifennu
at y Pwyllgor gyda’r diweddaraf am raglen Ynni’r Fro, gyda’r ffigurau sydd ar
gael.
·
Ysgrifennu
at y Pwyllgor i roi eglurhad ar eithriad y Goron yn ymwneud â Chyfoeth Naturiol
Cymru.
·
Ysgrifennu
at y Pwyllgor yn rhoi manylion am y dyddiad y cyhoeddir y Strategaeth
Ddŵr, a darparu nodyn ar gynnydd y pum argymhelliad a dderbyniwyd mewn
egwyddor.