Cyfarfodydd
ICT Strategy
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 20/10/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Strategaeth TGCh - cyflwyniad a thrafodaeth - llafar
Cofnodion:
Cyflwynodd Dave Tosh a Bedwyr Jones y
Strategaeth TGCh i’r Bwrdd, i amlinellu’r hyn a gyflawnwyd drwy droi at
ddarpariaeth fewnol, y weledigaeth ar gyfer gwasanaethau yn y dyfodol a’r amserlenni
a ragwelir ar gyfer eu rhoi ar waith. Bu’r pontio yn rhaglen newid busnes o
bwys. Byddai’r datblygiadau arloesol a’r gwelliannau yn newid y ffordd y mae
staff ac Aelodau yn gweithio, gan ddarparu gwasanaeth a fyddai’n cefnogi
swyddfa symudol yn llawn, yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd ac yn sicrhau bod
data yn haws i ddod o hyd a’i ddefnyddio.
Nododd Dave Tosh yn arbennig fod yr
ymddiriedaeth a’r ddealltwriaeth rhwng y gwasanaeth TGCh a gweddill y sefydliad
wedi cynyddu yn ystod y cyfnod pontio. Penodwyd Rheolwr TG newydd i gynorthwyo
staff a’r Aelodau i ddefnyddio’r caledwedd newydd, ac i ddarparu hyfforddiant
pwrpasol. Byddai’r holl hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn ddwyieithog a
byddai’n cynnwys ymweliadau â swyddfeydd etholaethol.
Cafodd aelodau’r Bwrdd sicrwydd am ddiogelwch y
Cwmwl, y mae’r Cynulliad wedi dechrau ei fabwysiadu, gan ddechrau gyda symud y
wefan i Sharepoint.
Mynegodd aelodau’r Bwrdd eu diolch i Dave Tosh
a’r tîm TGCh.