Cyfarfodydd
Capacity Management
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 09/10/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Rheoli Capasiti - Papur 2
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Croesawyd Lowri Williams
(y Pennaeth Adnoddau Dynol) i’r cyfarfod i drafod y dull gweithredu o ran y
gofynion a’r pwysau cynyddol ar y sefydliad a’i allu i ddiwallu’r gofynion ac i
ymdopi â’r pwysau yn awr ac yn y dyfodol. Roedd angen creu ystwythder i fynd
i’r afael â chyfnodau pan mae’r gwaith ar ei anterth, secondiadau a phenodiadau
dros dro, ac i integreiddio rhaglenni gwaith, fel ymgysylltu â phobl ifanc.
Byddai rheoli capasiti, fel dull diagnostig, yn dod â disgyblaeth ddefnyddiol
wrth roi atebion ar waith i ddatblygu gallu.
Roedd tri dewis ar gael ar gyfer mynd i’r afael â
heriau’r dyfodol gan gynnwys: rhoi’r gorau i wneud rhai pethau; buddsoddi mewn
adnoddau ychwanegol; neu wneud rhai pethau’n wahanol. Y tebygrwydd oedd y
byddai angen cyfuniad o’r dulliau hyn, ond, er mwyn bod yn sicr bod y dull
gweithredu cywir ar waith gennym, mae’n bwysig deall y darlun cyfan yn y
sefydliad o ran gweithgarwch a phwysau.
Bu’r Bwrdd yn trafod y
model cynllunio gwasanaeth a gynigiwyd, a daeth i’r casgliad ei fod yn
hanfodol, a chymeradwyodd y siart llif a’r amseroedd. Pwysleisiodd y Bwrdd ei
bod yr un mor bwysig cadw’r gwaith papur yn syml, ond yn ddigon cadarn i sicrhau
y caiff ei ddarllen yn gyffredinol drwy’r meysydd gwahanol. Dylai’r cynlluniau
gwasanaeth lywio’r gwaith a chael eu datblygu mewn ffordd sy’n ystyrlon i
dimau, o ran y modd y maent yn gweithio a gwerthoedd y sefydliad.
Trefnwyd sesiwn fanwl ar
gynllunio capasiti ar gyfer 24 Tachwedd, a byddai’r adran Adnoddau Dynol yn
darparu data i gynorthwyo gwaith cynllunio ar gyfer staff dwyieithog, effaith y
polisi gweithio hyblyg, defnyddio ymgynghorwyr a chontractwyr, swyddi tymor byr
/ penodol, secondiadau mewnol a gwybodaeth arall o’r fath. Tanlinellodd y Bwrdd
bwysigrwydd cydbwyso anghenion a rheoli polisïau â gwerthoedd y sefydliad.
Camau i’w cymryd:
Gofynnodd y Bwrdd i
Lowri i adolygu’r mecanwaith arfaethedig eto ac
·
ystyried symleiddio’r
templed cynllun gwasanaeth fel nad oedd yn gor-gyfyngu;
·
rhoi arweiniad ar beth
sydd angen i gynlluniau gwasanaeth eu cynnwys, gan gynnwys gofynion o ran
adnoddau ar gyfer gweithgareddau a gynlluniwyd, gan wirio eu bod yn gydnaws â’r
nodau strategol, yn enwedig mewn perthynas â cheisiadau am adnoddau ychwanegol;
·
sicrhau y byddai data ar
gael mewn da bryd i baratoi ar gyfer y cyfarfod ar 24 Tachwedd;
·
Lansio’r siart llif
recriwtio/ swyddi newydd diwygiedig a’r templed achos busnes yn ffurfiol.
Dylai’r Bwrdd Rheoli roi
gwybod i Lowri am unrhyw ofynion data eraill cyn gynted â phosibl.
Cyfarfod: 15/09/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 13)
Cynllunio capasiti
Cofnodion:
Cafodd y Bwrdd Rheoli drafodaeth fer am adnoddau
staffio o ystyried gofynion yn y dyfodol, a chyfeiriwyd yn benodol at y rhaglen
ddeddfu. Cynhelir cyfarfod blynyddol y Bwrdd Adnoddau a Chynllunio ar 24
Tachwedd ond teimlwyd bod angen trafod y mater cyn hynny felly cytunwyd i
ystyried cynnal y drafodaeth honno'n gynt. Byddai'r papur ar Reoli Capasiti, a
baratowyd gan Lowri Williams ar gyfer y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau, yn cael ei
ddosbarthu yn y cyfamser.