Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: y Bil Troseddu Difrifol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol y Bil Troseddu Difrifol (Memorandwm Rhif 4): Camfanteisio'n rhywiol ar blant ac adrodd gorfodol ynghylch anffurfio organau rhywiol merched
NDM5705 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Troseddu Difrifol sy'n ymwneud ag ecsbloetio plant yn rhywiol a'r drosedd o loetran
neu lithio at ddibenion puteindra, a gosod dyletswydd ar amrywiol weithwyr
proffesiynol i roi hysbysiad am achosion a nodir o anffurfio organau cenhedlu
benywod a phŵer cysylltiedig i wneud canllawiau statudol, i'r graddau y
maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 19 Chwefror 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/seriouscrime.html
(Saesneg yn unig)
Dogfen Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 15.08
NDM5705 Leighton
Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn
unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y
darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud ag ecsbloetio plant yn
rhywiol a'r drosedd o loetran neu lithio at ddibenion puteindra, a gosod
dyletswydd ar amrywiol weithwyr proffesiynol i roi hysbysiad am achosion a
nodir o anffurfio organau cenhedlu benywod a phŵer cysylltiedig i wneud
canllawiau statudol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 12/02/2015 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddu Difrifol: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dogfennau ategol:
- HSC(4)-05-15 (ptn 3) Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol [Saesneg yn unig], Eitem 7 PDF 53 KB
- HSC(4)-05-15 (ptn 3) Correspondence from the Minister for Health and Social Services (Annex A) [Saesneg yn unig], Eitem 7 PDF 89 KB
Cofnodion:
7.3a Nododd
y Pwyllgor yr ohebiaeth.
Cyfarfod: 11/02/2015 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
CYPE(4)-05-15 – Papur i'w nodi 3
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 10/02/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddu Difrifol - diwygiad mewn perthynas â chyfathrebu'n rhywiol â phlentyn (Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 3)
NDM5690 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol
sy'n ymwneud â'r drosedd o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn i'r graddau y maent
yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30
Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/seriouscrime.html
(Saesneg yn unig)
Dogfen Ategol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.04
NDM5690 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â'r drosedd
o gyfathrebu'n rhywiol â phlentyn i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 28/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Troseddau Difrifol (Memorandwm Rhif 2)
NDM5673
Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil
Troseddu Difrifol sy'n ymwneud ag ymddygiad cyfyngol neu orthrechol mewn perthnasoedd
personol neu deuluol, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir gweld copi o'r Bil yn:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/seriouscrime.html
Dogfennau Ategol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.40
NDM5673 Leighton Andrews (Rhondda)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud ag
ymddygiad cyfyngol neu orthrechol mewn perthnasoedd personol neu deuluol, i'r
graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol
Cymru
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Ionawr 2015 yn unol â Rheol Sefydlog
29.2(iii).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 09/12/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Troseddau Difrifol
NDM5646 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn
cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n
ymwneud â chreulondeb at blant, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11
Tachwedd 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
Gellir cael copi o'r Bil ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/seriouscrime.html
(Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 15.53
NDM5646 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y
DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Troseddu Difrifol sy'n ymwneud â chreulondeb
at blant, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad
Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Tachwedd 2014 yn unol â Rheol
Sefydlog 29.2(i).
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 19/11/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2.)
Ystyriaeth o'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Troseddu Difrifol
CYPE(4)-28-14 – Papur Preifat 1
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2./1)