Cyfarfodydd
Annual Review and Planning Board - Our financial future
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/11/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 3)
Ein dyfodol ariannol
Cofnodion:
Amlinellodd Nicola
Callow sefyllfa ariannol y Cynulliad a'r gronfa buddsoddi corfforaethol sydd ar
gael ar gyfer buddsoddi yn ystod blynyddoedd ariannol 2015-16 a 2016-17. Cafodd
y ffigurau eu casglu ynghyd er mwyn rhyddhau cymaint o gyllid â phosibl ac roeddent
yn defnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf am ragolygon staff a oedd ar gael, gan
ystyried yr arian a gytunwyd ar gyfer prosiectau'r adran Ystadau a Rheoli
Cyfleusterau a chronfa ddatblygu'r adran TGCh, ond gan neilltuo cyllideb ar
gyfer gwariant ar yr etholiad.
Amlinellodd Nicola rhai tybiaethau a wnaed hefyd, gan gynnwys effaith
ffactorau allanol, fel yr Adolygiad o Wariant sydd i ddod a newidiadau i
Yswiriant Gwladol Cyflogwyr. Roedd y ddwy risg fwyaf yn ymwneud â diffyg arian
wrth gefn yn y ffigurau a'r dybiaeth y byddai ffigur arian parod ar gyfer
cyllideb 2016-17 yr un peth â 2015-16.
Roedd cyfrifiad wedi'i
wneud ar gyfanswm costau'r adnoddau ychwanegol yr oedd pob gwasanaeth wedi
gofyn amdanynt. Cymharwyd y costau posibl â'r gronfa fuddsoddi a oedd ar gael o
flwyddyn i flwyddyn. Mewn egwyddor, ac yn seiliedig ar y cyfrifiadau hynny'n
unig, roedd yn ymddangos y byddai modd fforddio'r cynigion a gyflwynwyd. Fodd bynnag, byddai angen ystyried pob cynnig
yn ofalus iawn, oherwydd y byddai llai o hyblygrwydd ar gyfer cyfleoedd
gwariant buddsoddi eraill yn y dyfodol pe bai arian yn cael ei wario ar staff.
Roedd y Bwrdd Buddsoddi
ac Adnoddau yn edrych yn ofalus ar wariant buddsoddi ar gyfer 2014-15, yn
enwedig TGCh ac Ystadau lle yr oedd cryn hyblygrwydd, i reoli'r sefyllfa
ariannol a sicrhau ei fod yn llai na'r gyllideb ddiwedd mis Mawrth 2015. Dywedodd Nicola fod cynnig y gyllideb atodol
yn cael ei baratoi i'w gyflwyno yn y Cyfarfod Llawn ym mis Chwefror i addasu'r
gwariant a reolir yn flynyddol ar gyfer cynllun pensiwn yr Aelodau.