Cyfarfodydd
Annual Review and Planning Board - Pressures on our capacity to deliver
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 24/11/2014 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 5)
Pwysau ar ein gallu i gyflawni
Cofnodion:
Trafododd y Bwrdd y
pwysau a oedd yn achosi prinder adnoddau ar hyn o bryd a'r pwysau a fyddai'n
effeithio ar y capasiti i gyflawni yn y tymor hwy.
Roedd y pryderon
presennol yn ymwneud â chapasiti'r gwasanaethau penodol: Trawsnewid Strategol;
Cyfathrebu; Gwasanaeth Cymorth Busnes i Aelodau; Dadansoddwyr Busnes;
Deddfwriaeth; ac Adnoddau Dynol.
Ystyriwyd bod y ffactorau sy'n gwneud gwahaniaeth i'n capasiti i
gyflawni yn cynnwys: sgiliau rheoli prosiectau; llif mewnol ac argaeledd staff;
toriadau; methu â recriwtio pan fyddwn yn ceisio gwneud hynny; a blaenoriaethu
a dyblygu gwaith.
Roedd yr adran Adnoddau
Dynol wedi paratoi dogfen sylweddol o ddata ynghylch y gweithlu i'r rheolwyr.
Trafododd y Bwrdd y data a'r pwysau sy'n dylanwadu ar batrymau gwaith y timau
gwahanol. Roedd yn rhaid i'r gofyniad i reoli anghenion busnes a bwrw ymlaen â
phrosiectau dros doriad yr haf, gan sicrhau bod staff yn gweithio'n effeithiol
ac yn effeithlon drwy'r flwyddyn, gael ei gydbwyso ag iechyd a lles staff.