Cyfarfodydd
Cylch Gorchwyl - Y Bwrdd Rheoli
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 22/03/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 6)
Grwp Gweithredol/Tim Arwain - camau nesaf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Cafodd y Bwrdd raglen waith ar y cyd rhwng y Tîm
Arwain / Bwrdd Gweithredol newydd. Nodwyd ei bod yn debygol y byddai angen rhoi
amser yn rheolaidd ar agenda'r Tîm Arwain dros y misoedd nesaf ar gyfer gwaith
Cyfnod II yr Adolygiad Capasiti.
Cyfarfod: 08/02/2018 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Cylch Gorchwyl - y Bwrdd Gweithredol a'r Grŵp Arweinyddiaeth
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Amlinellodd Manon Antoniazzi fodel newydd ar gyfer
arweinyddiaeth Comisiwn y Cynulliad a chyflwynodd gylch gorchwyl ar gyfer Bwrdd
Gweithredol (EB) a Grŵp Arweinyddiaeth (LG) newydd. Byddai aelodau'r EB yn
cynnwys yr IRB presennol yn ogystal â'r Pennaeth Cyfathrebu a Chadeirydd y
Grŵp Arweinyddiaeth newydd (bydd aelodau gwahanol yn gwneud swydd y
Cadeirydd bob tymor). Bydd yn parhau i gyflawni ei ddyletswyddau llywodraethu a
goruchwylio. Byddai aelodau'r LG yn cynnwys y Prif Weithredwr, y Cyfarwyddwyr
a'r Prif Gynghorydd Cyfreithiol, pob un o'r Penaethiaid Gwasanaeth ac
Ymgynghorydd Polisi'r Llywydd. Byddai'r LG yn cyfarfod bob mis i feddwl am
syniadau arloesol a chreadigol a herio penderfyniadau strategol a wnaed gan yr
EB, ond ni fyddai'n gwneud penderfyniadau ei hun. Byddai cofnodion cyfarfodydd
yr EB yn cael eu rhannu â'r LG.
Roedd aelodau'r Bwrdd Rheoli eisoes wedi cyfarfod â
Manon yn unigol i drafod eu barn. Byddai ymgynghoriad mwy ffurfiol dros y
pythefnos nesaf yn gwahodd Penaethiaid a rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys yr
ysgrifenyddion, i gyflwyno sylwadau iddi cyn gweithredu'r strwythur newydd.
Trafododd y Bwrdd yn fanylach sut y gellid pennu
agendâu'r Grŵp Arweinyddiaeth a dull cyfathrebu rhwng y ddau grŵp a'r
staff. Gwahoddodd Manon wirfoddolwr ar gyfer y Cadeirydd cyntaf.
Cyfarfod: 06/07/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4.)
Cylch Gwaith y Bwrdd Buddsoddi a'r Bwrdd Rheoli
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10