Cyfarfodydd
Craffu ar waith y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/03/2012 - Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Carl Sargeant AC, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol,
Llywodraeth Leol a Chymunedau
Owain Lloyd, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Dogfennau ategol:
- CELG(4)-10-12 - Papur 1 - Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Eitem 2 PDF 299 KB Gweld fel HTML (2/1) 64 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y
Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Bu’r Aelodau’n holi’r
Gweinidog.
2.2 Cytunodd y
Gweinidog i ddarparu nodyn am y canlynol:
Strwythur y Grŵp Arweinyddiaeth Gwasanaethau Cyhoeddus;
Cytunodd y Gweinidog
i ysgrifennu at yr awdurdodau lleol sydd heb gwblhau’r broses Setliad Cyflog
Cyfartal ac i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am amcangyfrifon yr
awdurdodau o’u hamserlenni i wneud hynny;
Y wybodaeth
ddiweddaraf am rôl newydd Cyngor Partneriaeth Cymru;
When applicable
an update on the monitoring and outcomes of the Communities First clusters;
Update on the
progression with the Tier 4 planned proposals and the dual diagnostics issues.
2.3 The Chair
agreed to send the unasked questions to the Minister for a written response.
Cyfarfod: 29/02/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Sesiwn i graffu ar waith y Gweinidog - y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Papur 1
Carl Sargeant AC – Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Frances Duffy – Cyfarwyddwr Trafnidiaeth
Tim James – Dirprwy Gyfarwyddwr, Rhwydweithiau a Chynllunio
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion. Holodd yr Aelodau’r Gweinidog.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu nodyn ynghylch yr hyn a ganlyn:
- Pan fydd yn briodol, y wybodaeth ddiweddaraf ar ffurf
ysgrifenedig yn rhoi manylion am gynigion y Gweinidog ynghylch cludo nwyddau,
a’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed mewn perthynas â phob un o’r
camau tuag at ddarparu a nodwyd yn Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru;
- Manylion am y
trafodaethau rhwng y Prif Weinidog a Llywodraeth y DU ynghylch y cyfleoedd
arfaethedig ar gyfer yr M4;
- Manylion am
waith a wnaed i wella’r cysylltiadau rhwng y gogledd a’r de;
- Y wybodaeth
ddiweddaraf yn dilyn trafodaethau ar y cynllun newydd ar gyfer cyllido bysiau,
a darparu’r dangosyddion perfformiad allweddol i fesur llwyddiant y cynllun;
- Mwy o
fanylion am ffigurau sylfaenol cyfraddau’r Grant Gweithredwyr Gwasanaethau
Bysiau a chymhariaeth â Lloegr, gan gynnwys cymhariaeth o gyfraddau’r grant cyn
eu lleihau, a chymhariaeth o’r cyfraddau newydd yng Nghymru a Lloegr ar ôl
cynnwys pob lwfans ac ad-daliad ychwanegol sydd ar gael;
- Copi o’r
gwaith a wnaed gan gadeirydd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar drafnidiaeth
ysbyty nad yw ar gyfer achosion brys;
- Mwy o
wybodaeth am gyflawni a chyllido’r cynllun gweithredu cerdded a seiclo, gan
gynnwys cyfraddau llwyddiant a’r gwariant sy’n gysylltiedig â’r cynllun;
- Ffigurau sy’n
dangos yr hyn y mae’r Canolfannau Teithio Cynaliadwy wedi’i gyflawni ynghyd â
manylion am y cyllid refeniw a ddyrannwyd i’r cynllun Trefi
Teithio Cynaliadwy, yn hanesyddol ac ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Cyfarfod: 12/01/2012 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)
8 Papur CYP(4)-01-12 Papur 7 - Goheiaith gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, dyddiedig 22 Rhagfyr 2011, ynghylch gwybodaeth gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid yn dilyn cyfarfod y Pwyllgor ar 5 Hydref 2011
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 05/10/2011 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Sesiwn Craffu ar waith y Gweinidog : Cyfiawnder Ieuenctid
Carl Sargeant, y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Karin
Phillips, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Diogelwch Cymunedol.
Sarah
Cooper, Pennaeth Cyfiawnder
Ieuenctid
Egwyl (10:00 – 10:10)
Dogfennau ategol:
- CYP(4)-04-11 Papur 1 - Tystiolaeth gan Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedaus, Eitem 2 PDF 168 KB Gweld fel HTML (2/1) 43 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog a’i swyddogion i’r cyfarfod. Holodd yr Aelodau y tystion.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am:
- Y manylion ynghlych nifer y plant sydd yn y ddalfa yng Nghymru, gan gynnwys eu lleoliad a’u rhyw.
- A wariwyd yr holl arian yn y gronfa Diogelu Cymunedau yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf
- Y gyllideb refeniw cyfiawnder ieuenctid
- Cryfhau rôl y Comisiynydd Plant mewn perthynas â phlant o Gymru sydd yn y ddalfa yn Lloegr
- Nifer yr unigolion yn y ddalfa sy’n cael dedfryd o garchar yn y diwedd
Cyfarfod: 13/07/2011 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Craffu ar waith y Gweinidog : Trafnidiaeth (11.00 - 12.00)
EBC(4)-01-11 Papur 2 (Saesneg yn Unig)
Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Jeff
Collins, Cyfarwyddwr, Y
Grŵp Seilwaith)
Tim
James, Dirprwy Gyfarwyddwr,
Rhwydweithiau a Chynllunio).
Dogfennau ategol:
- EBC(4)-01-11 Papur 2 - Tystiolaeth gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedaus, Eitem 3 PDF 54 KB Gweld fel HTML (3/1) 46 KB
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, a’i swyddogion, i’r cyfarfod.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am:
· Newidiadau i werthuso a monitro prosiectau trafnidiaeth i reoli gorwariant
· Argaeledd arian cydgyfeirio ar gyfer trydaneiddio’r cyswllt rheilffordd rhwng Abertawe a Llundain, a’r cyfrifoldeb dros ariannu’r gwaith hwn
· Cyflwyno trenau deufodd, a’r cynnig i dreialu’r rhain ar y llwybr rhwng Caerdydd ac Abertawe
· Yr angen i wella’r cysylltiadau seilwaith rheilffordd heibio i Gaerdydd
· Achos busnes Llywodraeth flaenorol y DU dros drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe, a’r newidiadau sydd wedi digwydd ers llunio hynny
· Y newid yn y cydbwysedd gwariant rhwng prosiectau ffyrdd a rheilffyrdd, a’r cynlluniau ynghylch beth ddylai’r cydbwysedd hwn fod yn y dyfodol
· Cynnydd o ran cyflwyno gwasanaeth bob awr rhwng Amwythig ac Aberystwyth