Cyfarfodydd

Craffu ar waith y Dirprwy Weinidog Sgiliau

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 30/05/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Sesiwn graffu gyda'r Dirprwy Weinidog Sgiliau ar yr ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru

 

·         Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

 

·         Sam Huckle, Pennaeth Polisi Prentisiaeth

 

·         Owen Evans, Director, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Jeff Cuthbert AC – y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Llywodraeth Cymru, Sam Huckle, Pennaeth Polisi Prentisiaeth, Llywodraeth Cymru a Owen Evans, Cyfarwyddwr Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes, Llywodraeth Cymru. Bu’r Aelodau’n holi’r Dirprwy Weinidog ar yr ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru.

 


Cyfarfod: 02/05/2012 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Sesiwn graffu gyda'r Dirprwy Weinidog Sgiliau - Y wybodaeth ddiweddaraf am yr adroddiad ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant

·         Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau

·         Teresa Holdsworth - Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru

·         Suzanne Chisholm - Pennaeth Cynorthwyo Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Estynnodd y Cadeirydd groeso i Jeff Cuthbert AC, y Dirprwy Weinidog Sgiliau, Llywodraeth Cymru, Teresa Holdsworth, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru a Suzanne Chisholm,  Pennaeth Cynorthwyo Pobl Ifanc, Llywodraeth Cymru. Bu’r Aelodau yn holi’r Dirprwy Weinidog ynghylch y cynnydd a wnaed ers i’r Pwyllgor Menter a Busnes gyhoeddi ei adroddiad ar bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ym mis Hydref 2010.

 

Cytunodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau i roi gwybodaeth a ffigurau manylach i’r Pwyllgor ynghylch faint o gynlluniau sy’n bodoli i fynd i’r afael â phobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.