Cyfarfodydd

Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3.)

Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei ymchwiliad i Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd

NDM5943 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod cwpan Rygbi'r Byd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Rhagfyr 2015.

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes
Ymateb Llywodraeth Cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.00

NDM5943 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar ei Ymchwiliad i Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod cwpan Rygbi'r Byd, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Rhagfyr 2015.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.


Cyfarfod: 28/01/2016 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Trafodaeth ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adroddiad ar Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd

Dogfennau ategol:

  • Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adroddiad ar Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adroddiad ar Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.


Cyfarfod: 25/11/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

7 Ystyriaeth o'r adroddiad drafft ar Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd

Dogfennau ategol:

  • Adroddiad Drafft ar Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd (Saesneg yn unig am y tro)

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft ar Gynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd.


Cyfarfod: 19/11/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd 2015

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1.1 Nodwyd y papur gan y Pwyllgor.


Cyfarfod: 05/11/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)

2 Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd

Neil Hanratty, Cyfarwyddwr Datblygiad Economaidd, Cyngor Dinas Caerdydd

Claire Moggridge, Rheolwr Gweithredol – Rheoli Rhwydwaith Trafnidiaeth, Cyngor Dinas Caerdydd

Josh Jones, Prif Uwch-arolygydd, Heddlu De Cymru

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Neil Hanratty. Roedd Paul Carter, Rheolwr Gweithredol ar gyfer Trafnidiaeth a Gweithrediadau’r Ddinas  yn bresennol yn ei le.

2.2 Atebodd Claire Moggridge, Paul Carter a Josh Jones gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

2.3 Cytunodd Claire Moggridge i ddarparu’r hyn a ganlyn:

·         Manylion o ran nifer y tacsis sy’n gweithredu yng Nghaerdydd, ac unrhyw hyfforddiant a ddarperir er mwyn delio â digwyddiadau mawr.

·         Sylwadau ynghylch a fyddai datganoli rheoleiddio tacsis a hurio preifat yn gallu mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â’r ddarpariaeth o drafnidiaeth yn ystod digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd.

·         Sylwadau ynghylch a oedd ymateb gyrwyr tacsis i'r ymosodiadau rhywiol difrifol yng Nghaerdydd ym mis Medi yn ddigonol, yn enwedig yr awgrymiadau bod gyrwyr wedi parhau i wrthod mynd â menywod ar deithiau byr.


Cyfarfod: 05/11/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd - Gwasanaethau Bysiau

Cynthia Ogbonna, Rheolwr Gyfarwyddwr, Bws Caerdydd

Gareth Stevens, Rheolwr Datblygu Busnes, Bws Caerdydd

John Pockett, Cyfarwyddwr, Cysylltiadau Llywodraethol, Cydffederasiwn Cludiant Teithwyr Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Atebodd Cynthia Ogbonna, Gareth Stevens a John Pockett gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.


Cyfarfod: 05/11/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)

3 Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd - Gwasanaethau Trenau

Ian Bullock, Rheolwr Gyfarwyddwr, Trenau Arriva Cymru

Lynne Milligan, Cyfarwyddwr Gwasanaethau i Gwsmeriaid, Trenau Arriva Cymru

Mark Hopwood, Rheolwr Gyfarwyddwr, Great Western Railway

Paul McMahon, Rheolwr Gyfarwyddwr Llwybrau – Cymru, Network Rail

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Atebodd Ian Bullock, Lynne Milligan, Mark Hopwood a Paul McMahon gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

3.2 Chwaraeodd Trenau Arriva Cymru fideo byr.

3.3 Chwaraeodd Great Western Railway ffeil sain fer.


Cyfarfod: 05/11/2015 - Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)

5 Cynlluniau Trafnidiaeth yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd - Trefnwyr

Mick Wright, Pennaeth Gwasanaethau Twrnamaint, Cwpan Rygbi’r Byd

Christopher Garnett, Cynghorydd Trafnidiaeth Strategol, Cwpan Rygbi’r Byd

Tom Legg, Rheolwr Trafnidiaeth Twrnamaint, Cwpan Rygbi’r Byd

Neil Snowball, Prif Swyddog Gweithredu, Cwpan Rygbi’r Byd

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Atebodd Mick Wright, Christopher Garnett, Tom Legg a Neil Snowball gwestiynau gan Aelodau o’r Pwyllgor.

5.2 Cytunodd Neil Snowball i ddarparu copi o’r asesiad o effaith economaidd a gynhaliwyd cyn ac ar ôl Cwpan Rygbi’r Byd 2015.