Cyfarfodydd
Arolwg Effeithiolrwydd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 19/02/2024 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)
Arolwg o effeithiolrwydd y Pwyllgor – cynnwys ac amseriadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
ARAC (24-01) Papur 12 – arolwg o effeithiolrwydd ac amserlen
13.1 Gofynnodd y Cadeirydd i aelodau’r Pwyllgor
ystyried hyn y tu allan i’r pwyllgor a rhannu unrhyw sylwadau â’r tîm clercio.
Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Canlyniadau arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
ARAC (22-06)
Papur 11 - Adroddiad ar yr arolwg o effeithiolrwydd ARAC 2022
15.1 Diolchodd y
Cadeirydd i'r tîm Clercio am lunio'r adroddiad manwl ar y dadansoddiad o
ganlyniadau'r arolwg. Roedd yn falch o'r sgoriau, a oedd yn cadarnhau ei farn
ar effeithiolrwydd parhaus y Pwyllgor. Diolchodd i bawb am lenwi'r arolwg, yn
arbennig am y sylwadau defnyddiol a wnaed.
Cyfarfod: 15/06/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Ystyried amseriad a chynnwys arolwg o effeithiolrwydd y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
- Cyfyngedig 9
Cofnodion:
ARAC (22-03) Papur 9 – papur blaen – arolwg
ARAC (22-03) Papur 9 – arolwg diwygiedig gyda chwestiynau
Ychwanegol
10.1 Canmolodd y Pwyllgor Kathryn Hughes am ei gwaith dadansoddi o offeryn
effeithiolrwydd newydd y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac am dynnu deunydd y
gellir ei ddefnyddio i’w gynnwys yn yr arolwg sydd i ddod, fel y’i cyflwynir yn
y papur. Cytunwyd ar y cynnwys a’r amserlen. Byddai’r tîm Clercio yn cyhoeddi’r
arolwg wedi’i ddiweddaru ym mis Gorffennaf 2022, gyda’r bwriad o gyflwyno’r
canlyniadau i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd. Pwysleisiodd y Cadeirydd ei bod hi’n
bwysig cael digon o ymatebion i ddarparu gwybodaeth ystyrlon. Pwysleisiodd
Kathryn hefyd ei bod hi’n bwysig ategu’r sgoriau gyda sylwadau a fyddai’n helpu
i lywio gwerthusiad o’r canlyniadau.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Canlyniadau arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
ARAC
(03-20) Papur 9 - Crynodeb o ganlyniadau arolwg effeithiolrwydd 2020
9.1
Cyflwynodd y Cadeirydd y
papur, a roddai grynodeb a dadansoddiad o Arolwg Effeithiolrwydd diweddaraf y
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg.
9.2
Clywodd y Pwyllgor fod y
canlyniadau'n gadarnhaol ym mhob un o'r pum maes a fesurwyd, sef: Cyfansoddiad,
Sefydlu a Dyletswyddau; Trefniadau Gweinyddol; Rheolaeth Fewnol a Rheoli Risg;
Rôl yr Archwiliad; a Chyfrifon Blynyddol.
9.3
Yn dilyn trafodaeth, gwnaed y
sylwadau canlynol i'r Cadeirydd eu trafod â’r tîm clercio:
·
gwella
ymwybyddiaeth ARAC o waith y Comisiwn, gan gynnwys rhannu rhaglen waith y
Comisiwn ag ARAC;
·
ymgorffori
adborth hyblyg mewn arolygon effeithiolrwydd yn y dyfodol; ac
·
adolygiad o’r gwaith a wnaed
yn nhymor cyfredol y Senedd i lywio rhaglen waith y Pwyllgor yn y Senedd nesaf.
Byddai'r Cadeirydd yn trefnu cyfarfod ar wahân â'r aelodau i adolygu gwaith y
Pwyllgor cyn cyfarfod yr Hydref.
9.4
Diolchodd y Pwyllgor i'r
swyddogion am y dadansoddiad trylwyr o'r canlyniadau.
Camau Gweithredu
·
(9.4) Y Cadeirydd i drafod yr
adborth o ganlyniadau'r arolwg â'r tîm clercio.
·
(9.4) Rhannu rhaglen waith y Comisiwn ag aelodau ARAC.
Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Arolwg Effeithiolrwydd y Pwyllgor - cyflwyno'r canlyniadau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15
- Cyfyngedig 16
Cofnodion:
ACARAC (01-18) Papur 7 – Arolwg Effeithiolrwydd y Pwyllgor
7.1
Cyflwynodd Kathryn
Hughes ganlyniadau'r arolwg i'r Pwyllgor, a oedd yn ffafriol. Roedd yr arolwg
hwn yn cyflwyno data a oedd yn lled gymaradwy i arolwg 2015, er gwaethaf rhai
adolygiadau a chwestiynau ychwanegol
7.2
Nododd Kathryn ambell faes i'w gwella ar sail y sylwadau a wnaed gan yr
ymatebwyr. Yr unig gam ffurfiol a nodwyd gan y Pwyllgor oedd ystyried defnyddio
cyfarfod mis Gorffennaf yn well, a ddefnyddiwyd ar hyn o bryd i ystyried cau'r
cyfrifon yn derfynol. Gallai hyn gynnwys ystyried canlyniadau'r cyfarfodydd
diwedd tymor blynyddol ar gyfer cynllunio strategol, a gyflwynwyd gan y
Comisiwn, neu ddadansoddiad manylach o risg neu wybodaeth perfformiad.
7.3
At ei gilydd, roedd y
Cadeirydd yn falch â'r canlyniadau cadarnhaol ac yn llongyfarch aelodau a
swyddogion ACARAC. Caiff blaenraglen
waith ddiwygiedig yn cynnwys yr awgrymiadau hyn ei dosbarthu dros doriad yr
haf.
Camau i’w cymryd
-
Yr Ysgrifenyddiaeth i
weithio â'r swyddogion a'r Cadeirydd i benderfynu pa eitemau y gellid eu
cyflwyno i'w trafod yng nghyfarfod mis Gorffennaf.
Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)
Cymeradwyo arolwg effeithiolrwydd y Pwyllgor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
ACARAC (31) Papur 13 - Arolwg Effeithiolrwydd y Pwyllgor
ACARAC (31) Papur 13 – Atodiad A – Holiadur yr Arolwg Effeithiolrwydd
10.1
Cytunodd
y Pwyllgor ar y cwestiynau a gynhwyswyd yn yr arolwg, a fyddai’n cael ei
ddosbarthu ym mis Rhagfyr. Ar ôl peth
dadansoddi mewnol, byddai’r canlyniadau yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor ym mis
Chwefror.
Camau i’w cymryd
-
Aelodau’r Pwyllgor a’r
rhai sy’n bresennol i gwblhau arolwg effeithiolrwydd ACARAC erbyn 5 Ionawr
2018.
Cyfarfod: 19/06/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)
Ystyried y dull gweithredu wrth adolygu effeithiolrwydd y Pwyllgor (adroddiad erbyn mis Chwefror 2018)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23
Cofnodion:
ACARAC (03-17) Papur 17 – Cwestiynau'r arolwg blaenorol (2015)
16.1
Cytunodd y Pwyllgor ar
amserlen ar gyfer yr arolwg nesaf, a fyddai'n cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd
2017, a'r adroddiad ym mis Chwefror 2018.
Cytunodd aelodau'r Pwyllgor i anfon unrhyw awgrymiadau ar gyfer diwygio
cwestiynau'r arolwg at y tîm clercio erbyn mis Awst.
Cam i’w gymryd
-
Aelodau ACARAC i anfon
awgrymiadau ar gyfer diwygio cwestiynau'r arolwg at y tîm clercio.
Cyfarfod: 25/04/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Adolygu cynnydd o ran y cynllun gweithredu yn dilyn arolwg effeithiolrwydd ACARAC
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
ACARAC (32) Papur 10 -
cynllun gweithredu canlyniadau arolwg 2016
8.1
Diolchodd y Cadeirydd i'r tîm am yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y
cynnydd a wnaed o ran y cynllun gweithredu a nododd y gwaith sy'n mynd rhagddo
i adolygu'r dangosyddion perfformiad allweddol.
Cyfarfod: 14/04/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 10)
Effeithlonrwydd ac Effeithiolrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Cyflwynodd
Dave Tosh adolygiad o’r dull o gasglu, monitro ac olrhain effeithlonrwydd ac
effeithiolrwydd y sefydliad, yn dilyn cais gan y Prif Weithredwr a’r Pwyllgor
Archwilio a Sicrwydd Ansawdd. Byddai’r canlyniad yn cael ei gyflwyno i’r
Pwyllgor hwnnw yn ei gyfarfod ym mis Mehefin.
Cytunwyd
i gynnwys adran ar y gwaith ar reoli perfformiad.
Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Canlyniadau'r Cynllun Gweithredu a'r Arolwg o Effeithlonrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
- Cyfyngedig 33
Cofnodion:
ACARAC (31) Papur 10 - Arolwg o
Effeithlonrwydd ACARAC - papur eglurhaol
ACARAC (31) Papur 11 - Arolwg o Effeithlonrwydd
2015 – Adroddiad
8.1
Estynnodd
y Cadeirydd longyfarchiadau i'r tîm clercio ar weinyddu a dadansoddi’r arolwg
effeithiolrwydd yn fewnol, a arweiniodd at arbed oddeutu £3,000.
8.2
Roedd y
drafodaeth ar y canlyniadau yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol a nodwyd ar
gyfer eu cryfhau ymhellach:
·
rhyngweithio
rhwng y Pwyllgor a Chomisiwn y Cynulliad a’r Comisiynwyr;
·
ystyried
sut y mae gwaith ACARAC yn integreiddio â gwaith rheoli perfformiad ehangach y
Comisiwn;
·
monitro’r
proffil risg a chynnydd o ran rhaglenni a phrosiectau newid; ac
·
eglurder
ar rôl ACARAC mewn perthynas â chymeradwyo cyfrifon a dysgu gwersi yn dilyn
archwiliad 2014-15.
8.3
Cytunwyd y
byddai’r diweddariadau rheolaidd ar waith y Comisiwn yn parhau i gael eu
dosbarthu i aelodau’r pwyllgor. Yn dibynnu
ar ffurf y Comisiwn newydd (ar ôl yr etholiad ym mis Mai), gellid trefnu
cyfarfod rhagarweiniol gyda’r aelod newydd o’r pwyllgor. Awgrymodd yr Aelodau hefyd y dylai rhaglen
gynefino strwythuredig gael ei sefydlu ar gyfer yr aelod newydd ac er mwyn cyfeirio
at rôl ACARAC yn y rhaglen gynefino ar gyfer pob Comisiynydd newydd. Byddai’r tîm clercio yn cysylltu â thîm Datblygiad Proffesiynol yr Aelodau.
8.4
Croesawodd
y Pwyllgor hefyd yr awgrym y dylai adolygu’r Adroddiad ar Ddangosyddion
Perfformiad Allweddol. Byddai’r
adroddiad ar ei newydd wedd yn cynnwys crynodeb o statws rhaglenni a
phrosiectau newid.
8.5
Ar y
cyfan, roedd y Cadeirydd yn falch iawn gyda’r broses a’r canlyniadau cadarnhaol
iawn, ac estynnodd longyfarchiadau i'w gyd-aelodau ar y Pwyllgor Archwilio a
Sicrwydd Risg. Byddai cynllun gweithredu
yn cael ei ddosbarthu cyn bo hir.
Cam i’w
gymryd
-
Y tîm
clercio i ddrafftio a dosbarthu cynllun gweithredu.
Cyfarfod: 16/11/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Arolwg Effeithiolrwydd
Cofnodion:
9.1
Arweiniodd y Cadeirydd drafodaeth ar yr arolwg o effeithiolrwydd yn y
dyfodol, a oedd yn un o ofynion llawlyfr Trysorlys Ei Mawrhydi. Cwblhawyd yr arolwg diwethaf ym mis Mai 2014,
a chyflwynwyd y canlyniadau i'r Pwyllgor ym mis Mehefin 2014. Roedd cynllun gweithredu’n nodi’r meysydd
pryder i’r Cadeirydd, ac roedd yr holl gamau gweithredu bellach wedi’u cwblhau.
9.2
Cytunodd y Pwyllgor i ddilyn yr un broses a chwblhau'r arolwg erbyn canol
mis Rhagfyr a chyflwyno’r canlyniadau i'r Pwyllgor ym mis Chwefror.
Camau gweithredu
-
Y tîm clercio i gysylltu ag EAG / Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn sicrhau
bod yr arolwg yn cael ei gwblhau a bod y canlyniadau’n cael eu dadansoddi erbyn
y cyfarfod nesaf.
Cyfarfod: 10/11/2014 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Y wybodaeth ddiweddaraf am yr Arolwg Effeithiolrwydd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
9.1
Rhoddodd y Cadeirydd y
wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y cynllun gweithredu. Roedd wedi bod yng nghyfarfod y Comisiwn ym
mis Gorffennaf a byddai'n trafod cyfleoedd ymgysylltu yn y dyfodol gyda
Claire.
9.2
Cytunodd Eric a Gareth i
edrych ar opsiynau hyfforddi Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y Pwyllgor
Archwilio a dosbarthu unrhyw wybodaeth berthnasol i'r aelodau.
Camau
gweithredu
-
Gareth Watts ac Eric Gregory
i drafod ystyriaeth ar y cyd y Pwyllgor o ganllawiau newydd y Swyddfa Archwilio
Genedlaethol / Trysorlys Ei Mawrhydi.
-
Eric Gregory a Claire Clancy
i drafod cyfleoedd i aelodau Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y
Cynulliad gysylltu â thimau'r Comisiwn.