Cyfarfodydd
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bill Mewnfudo
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/03/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 10.)
Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y darpariaethau ym Mil Mewnfudo’r DU mewn perthynas â gofynion yr iaith Gymraeg ar gyfer gweithwyr yn y sector cyhoeddus
NDM5993 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol
Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y Deyrnas Unedig ystyried y
darpariaethau yn y Bil Mewnfudo sy'n ymwneud â gofynion iaith Gymraeg ar gyfer gweithwyr
penodol yn y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd
deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa
Gyflwyno ar 5 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i) a (iii).
Mae copi o'r Bil i'w weld ar wefan Senedd y DU:
http://services.parliament.uk/bills/2015-16/immigration.html
Dogfennau Ategol
Cynnig
Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad
y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 15.53
NDM5993 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â
Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y Deyrnas Unedig ystyried y
darpariaethau yn y Bil Mewnfudo sy'n ymwneud â gofynion iaith Gymraeg ar gyfer
gweithwyr penodol yn y sector cyhoeddus, i'r graddau y maent yn dod o fewn
cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol
Sefydlog 12.36.